BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales i ddarlledu'n ddigidol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Mae BBC Cymru wedi croesawu'r newyddion y bydd amlblethiad newydd radio digidol yn cael ei lansio ym mis Tachwedd, fydd yn galluogi dwy orsaf radio genedlaethol BBC Cymru i ddarlledu'n ddigidol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru .
Bydd MuxCo yn lansio amlblethiad radio digidol yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn Lerpwl, Sir Gaer a Gogledd Ddwyrain Cymru ac, yn amodol ar y cytundeb, bydd yn hwb pellach i ddarlledu digidol y ddwy orsaf yng Nghymru.
"Mae hyn yn newyddion da i BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a chynulleidfaoedd yn y Gogledd Ddwyrain," meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, "gan y bydd y gwrandawyr yn gallu gwrando ar y ddwy orsaf gyda'r safon gorau posib o sain, yn ddigidol."
"Mae hyn yn newyddion gwych i BBC Radio Wales," meddai Steve Austins, Golygydd BBC Radio Wales. "Mae gennym dîm wedi ei leoli yn Wrecsam, sy'n sicrhau bod lleisiau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu clywed ar draws ein rhaglenni. Rydym wrth ein boddau y bydd pobol nawr yn gallu gwrando yn ddigidol."
Meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru: "Mae BBC Radio Cymru yn ymfalchïo ein bod yn adlewyrchu Cymru gyfan ac mae'r datblygiad yma yn golygu bod yr orsaf yn gallu cynnig ei hystod ddifyr a pherthnasol o raglenni i'w chynulleidfa yn y Gogledd Ddwyrain trwy DAB."


Mae