Archifau Chwefror 2012

Manylu: Llygredd Llyn Padarn

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|15:28, Dydd Llun, 20 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Gallai un o bysgod prina Cymru ddiflannu o un o'i ychydig gynefinoedd naturiol oherwydd llygredd ymhen pum mlynedd. Dyna farn yr awdurdodau sy'n gyfrifol am warchod y torgoch.

Ond yn rhaglen Manyluheno ar Radio Cymru, bydd yr asiantaethau hynny sydd a dyletswydd dros ddiogelu'r pysgodyn yn cael eu cyhuddo o laesu dwylo - sydd wedi arwain at ddifa'r union hyn mae nhw fod i'w warchod.

Ers dau ddegawd mae Cymdeithas Pysgotwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni wedi bod yn pryderu bod gwaith carthffosiaeth Dŵr Cymru yn llygru Llyn Padarn, Llanberis, a bod hynny'n difa stoc y torgoch. Mae nhw hefyd wedi dweud mai carthffosiaeth oedd y bai am yr algae gwenwynig fu ar wyneb y llyn yn haf 2009, wnaeth effeithio busnesau twrisiaeth yn y pentref. Doedd dim prawf o hyn yn ôl Dŵr Cymru a'r awdurdodau.

Ond mae'r pysgotwyr yn dweud nad oes neb wedi cymryd eu pryderon o ddifri nac wedi dod i wraidd y broblem ddigon cynnar - a bod amser nawr yn rhedeg allan.

Manylu, nos Lun, Chwefror 20, 2012.



Tynged yr Iaith 2012 - Darlith Meri Huws

NewyddionNewyddion|10:10, Dydd Gwener, 17 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Meri Huws, y darpar gomisiynydd iaith fydd yn traddodi darlith heddiw cyn Taro'r Post.

A hithau'n hanner can mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi darlith 'Tynged yr Iaith' ar donfeddi'r BBC, mae Radio Cymru wedi comisiynu 5 darlith fer gan uniogolion amlwg i nodi'r achlysur a chynnig sawl gogwydd wahanol ar y Gymraeg yn 2012.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Tynged yr Iaith 2012 - Darlith Dr Simon Brooks

Categorïau:

NewyddionNewyddion|09:03, Dydd Iau, 16 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Heddiw, cawn glywed gan Dr.Simon Brooks - darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a chyn-olygydd y cylchgrawn Barn.

A hithau'n hanner can mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi darlith 'Tynged yr Iaith' ar donfeddi'r BBC, mae Radio Cymru wedi comisiynu 5 darlith fer gan uniogolion amlwg i nodi'r achlysur a chynnig sawl gogwydd wahanol ar y Gymraeg yn 2012.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Darlith Gwyneth Lewis

Categorïau:

NewyddionNewyddion|10:00, Dydd Mercher, 15 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Heddiw cawn glywed gan y bardd a'r llenor Gwyneth Lewis.

A hithau'n hanner can mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi darlith 'Tynged yr Iaith' ar donfeddi'r BBC, mae Radio Cymru wedi comisiynu 5 darlith fer gan uniogolion amlwg i nodi'r achlysur a chynnig sawl gogwydd wahanol ar y Gymraeg yn 2012.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Darlith Gwyneth Lewis - heddiw 12pm

Dewi Llwyd yn holi Neil Rosser

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|20:45, Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Y canwr a'r athro Neil Rosser oedd gwestai arbennig Dewi Llwyd fore Sul 12.02.12

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Dewi Llwyd yn holi Gerald Davies

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|20:05, Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei benblwydd un o asgellwyr gorau tim rygbi Cymru erioed ac un o gyn-reolwyr y llewod Gerald Davies oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul 05.02.12.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Darlith Y Prifardd Rhys Iorwerth

Categorïau:

NewyddionNewyddion|10:00, Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Pumdeg mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi darlith ‘Tynged yr Iaith’, mae Radio Cymru wedi comisiynu 5 darlith newydd ar y Gymraeg yn 2012. Heddiw, cawn glywed yr ail ddarlith gan y prifardd Rhys Iorwerth.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Gwrando ar Darlith Y Prifardd Rhys Iorwerth - heddiw 12pm

Tynged yr Iaith 2012: Darlith Guto Bebb

Categorïau:

NewyddionNewyddion|10:30, Dydd Llun, 13 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

A hithau'n hanner can mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi darlith 'Tynged yr Iaith' ar donfeddi'r BBC, mae Radio Cymru wedi comisiynu 5 darlith fer gan uniogolion amlwg i nodi'r achlysur a chynnig sawl gogwydd wahanol ar y Gymraeg yn 2012. Heddiw cawn glywed gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Darlith Guto Bebb: Heddiw am 12pm

Beth yw Tynged yr Iaith Gymraeg yn 2012?

Categorïau:

NewyddionNewyddion|08:32, Dydd Llun, 13 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Arolwg Barn Radio Cymru 2012

Hanner can mlynedd wedi Tynged yr Iaith, darlith enwog Saunders Lewis a ddarlledwyd ar yr hen BBC Home Service, mae BBC Radio Cymru wedi cynnal arolwg i gasglu barn pobl ledled Cymru am yr iaith Gymraeg.

Yn 1962, proffwydodd Saunders Lewis ddiwedd ar yr iaith Gymraeg fel "iaith fyw" erbyn dechrau'r Unfed Ganrif ar Hugain. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, holwyd dros 1,000 o bobl ar draws Cymru - yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddi-Gymraeg - am eu hagwedd tuag at yr iaith.



Statws yr iaith

Credai bron i dri o bob pump bod angen cryfhau statws yr iaith ymhellach. Siaradwyr Cymraeg ac yn arbennig y rhai 16-24 oedd fwyaf o blaid hyn. Roedd dros saith o bob deg siaradwr Cymraeg yn credu bod angen cryfhau statws yr iaith, ac er bod y ganran yn llai ar gyfer y di-Gymraeg sef 56%, mae hyn yn fwy na'u hanner.

Defnyddio'r iaith

Er bod y sefyllfa o ran yr hawl i ddefnyddio'r iaith wedi esblygu ers 1962, llai na hanner y siaradwyr Cymraeg a holwyd sy'n defnyddio'r Gymraeg o gwbl wrth drafod â chwmnïau a sefydliadau gwahanol. Mae'r niferoedd sy'n defnyddio'r Gymraeg yn is ymhlith siaradwyr Cymraeg yn y De ddwyrain ac ymhlith y rhai ifanc. Mae canran uwch yn defnyddio'r Gymraeg yn y siopau a'r archfarchnadoedd (47%), a'r cynghorau neu'r Llywodraeth (42%) na gyda'r banciau a chwmnïau ariannol (31%) a'r cwmnïau ffôn, trydan, nwy a dwr (23%).

Ac o ran defnyddio'r iaith, dim ond hanner y siaradwyr Cymraeg oedd yn credu bod angen mwy o bwyslais ar gywirdeb iaith yn gyffredinol. Roedd amrywiaeth barn o blith y grwpiau oedran - gyda mwy o'r rhai iau na'r rhai hyn o'r farn bod angen mwy o bwyslais ar gywirdeb iaith.

Yr hawl i Addysg Gymraeg

Mae gwahaniaeth barn amlwg rhwng siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg i'r cwestiwn a ddylai rhieni a disgyblion yng Nghymru gael dewis os nad ydyn nhw yn dymuno astudio Cymraeg fel pwnc yn yr ysgol. Tra bo dros hanner (55%) y siaradwyr Cymraeg o'r farn na ddylai bod dewis, mae dros hanner (56%) y rhai di-Gymraeg o blaid rhoi dewis.



Cymreictod

O ran Cymreictod, llai na thraean (32%) y rhai a holwyd oedd o'r farn fod y gallu i siarad Cymraeg yn gwneud unigolyn yn fwy o Gymro. Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o feddwl hyn ond maent dal yn y lleiafrif (43%).



Bydd rhaglen newyddion foreol Radio Cymru, Post Cyntaf, allan ar daith yn ystod yr wythnos, wrth iddi ddatgelu manylion yr arolwg barn hwn ar yr iaith; adroddiad Bwrdd yr Iaith sydd yn edrych ar gyflwr yr iaith yn ein cymunedau; effaith toriadau ariannol ar yr iaith a'r mentrau iaith a hefyd pam ei bod hi'n her cael pobl ifanc i siarad yr iaith.

O ddydd Llun - Gwener, Chwefror 13-17, bydd tîm y Post Cyntaf yn ymweld â Phontypridd, Llanfair Caereinion, Wrecsam, Botwnnog a Rhydaman.

Arolwg: 'Cryfhau statws yr iaith'

Hanner can mlynedd ers darlith enwog Tynged yr Iaith

Categorïau:

NewyddionNewyddion|17:45, Dydd Sul, 12 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Hanner can mlynedd wedi darlith enwog Tynged yr Iaith ar yr hen BBC Home Service, lle proffwydodd Saunders Lewis ddiwedd ar yr iaith Gymraeg fel "iaith fyw" erbyn dechrau’r Unfed Ganrif ar Hugain, bydd rhaglenni arbennig gan BBC Radio Cymru yn cael eu darlledu’r wythnos nesaf.



Er mwyn nodi’r achlysur, bydd BBC Radio Cymru yn edrych ar amrywiol agweddau tuag at y Gymraeg yn 2012, trwy amrywiol raglenni, gan gynnwys darlith gan bump o Gymry modern a chyfarwydd fydd yn trafod eu barn a’u rhagolygon ynghylch yr iaith. Darlledir y darlithoedd rhain am 12pm.

  • Dydd Llun, Chwefror 13 - Guto Bebb AS, Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Aberconwy
  • Dydd Mawrth, Chwefror 14 - Y Prifardd Rhys Iorwerth
  • Dydd Mercher, Chwefror 15 - Gwyneth Lewis, bardd a llenor, a Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2005
  • Dydd Iau, Chwefror 16 - Dr Simon Brooks, cyn-olygydd y Barn a darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
  • Dydd Gwener, Chwefror 17- Meri Huws, darpar Gomisiynydd newydd yr iaith Gymraeg

Fel cyflwyniad i’r darlithoedd hyn, bydd Saunders a Thynged yr Iaith ar nos Sul, 5.45pm yn gyfle i Vaughan Roderick roi darlith radio Saunders Lewis yn ei chyd-destun hanesyddol a chymdeithasol, gan holi pa mor ddylanwadol oedd y ddarlith mewn gwirionedd gyda’i westeion arbennig Gareth Miles, Dr John Davies, Dr Harri Pritchard Jones a’r colofnydd a’r hanesydd Hywel Williams.



Bydd y rhaglen newyddion foreol, Post Cyntaf, allan ar daith yr wythnos nesaf, wrth iddi ddatgelu manylion arolwg barn newydd ar yr iaith gan BBC Radio Cymru; adroddiad Bwrdd yr Iaith sydd yn edrych ar gyflwr yr iaith yn ein cymunedau; effaith toriadau ariannol ar yr iaith a’r mentrau iaith a hefyd pam ei bod hi’n her cael pobl ifanc i siarad yr iaith. O ddydd Llun - Gwener, Chwefror 13 - 17, bydd tîm y Post yn ymweld â Phontypridd, Llanfair Caereinion, Wrecsam, Botwnnog a Rhydaman.



"All neb ddiystyru arwyddocâd darlledu Tynged yr Iaith ar y BBC yn 1962. Fe arweiniodd at drobwynt yn hanes yr iaith Gymraeg ac at ddeffroad cenedlaethol ynglyn â sefyllfa’r iaith," meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru.

  • Gwefan:Tynged yr Iaith 2012

  • Manylu: 'Dymchwel fel pac o gardiau': Argyfwng y gwasanaeth iechyd yn y gorllewin a'r canolbarth

    Categorïau:

    Criw ManyluCriw Manylu|15:14, Dydd Llun, 6 Chwefror 2012

    Sylwadau (0)

    Yng ngorllewin a chanolbarth Cymru, mae'r gwasanaeth iechyd yn wynebu argyfwng wrth i gynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ad-drefnu eu gwasanaeth greu panic a dicter ymhlith cleifion a meddygon.

    Ar Manylu heno fe fydd llawfeddyg mwya' profiadol Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn son am ei bryderon e' am ddyfodol yr ysbyty.

    Mae John Llewelyn Edwards yn rhybuddio y gallai torri gwasanaethau ym Mronglais gael effaith pell-gyrhaeddol.

    "Rwy' yn pryderu, achos rwy'n gweld y bydd rhaid gwneud newidiadau i'r gwasanaeth, ond y perygl yw, unwaith y tynnwch chi wasanaeth allweddol allan o ysbyty mae hynny'n cael effaith ar adrannau eraill, a'r perygl yw y bydd y cwbl yn dymchwel fel pac o gardiau," meddai Mr Edwards.

    Daw ei rybudd ychydig ddyddiau wedi i hanner cant o feddygon yr ysbyty arwyddo llythyr yn dweud eu bod nhw wedi colli hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.

    Mae ymgyrchwyr o ardaloedd eraill yn sir Gaerfyrddin, Powys a thu hwnt hefyd wedi lleisio pryder mawr am y toriadau posib sy'n cael eu hystyried gan y Bwrdd.

    Heno ar Manylu, pa mor iach yw dyfodol y gwasanaeth iechyd yng ngorllewin a chanolbarth Cymru?

    Manylu am 6 o'r gloch ar BBC Radio Cymru.

    Cân Babis Mis Ionawr

    Categorïau:

    Criw Dafydd a CarylCriw Dafydd a Caryl|13:11, Dydd Mercher, 1 Chwefror 2012

    Sylwadau (0)

    Dyma'r gân gan Caryl Parry Jones yn arbennig i fabanod Mis Ionawr 2012.

    In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

    Cofiwch gysylltu â Dafydd a Caryl os am sicrhau fod enw aelod diweddara'r teulu neu fabi i ffrind yng nghan "Babis mis Chwefror!"