Hanner can mlynedd ers darlith enwog Tynged yr Iaith
Hanner can mlynedd wedi darlith enwog Tynged yr Iaith ar yr hen BBC Home Service, lle proffwydodd Saunders Lewis ddiwedd ar yr iaith Gymraeg fel "iaith fyw" erbyn dechrau’r Unfed Ganrif ar Hugain, bydd rhaglenni arbennig gan BBC Radio Cymru yn cael eu darlledu’r wythnos nesaf.
Er mwyn nodi’r achlysur, bydd BBC Radio Cymru yn edrych ar amrywiol agweddau tuag at y Gymraeg yn 2012, trwy amrywiol raglenni, gan gynnwys darlith gan bump o Gymry modern a chyfarwydd fydd yn trafod eu barn a’u rhagolygon ynghylch yr iaith. Darlledir y darlithoedd rhain am 12pm.
- Dydd Llun, Chwefror 13 - Guto Bebb AS, Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Aberconwy
- Dydd Mawrth, Chwefror 14 - Y Prifardd Rhys Iorwerth
- Dydd Mercher, Chwefror 15 - Gwyneth Lewis, bardd a llenor, a Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2005
- Dydd Iau, Chwefror 16 - Dr Simon Brooks, cyn-olygydd y Barn a darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
- Dydd Gwener, Chwefror 17- Meri Huws, darpar Gomisiynydd newydd yr iaith Gymraeg
Fel cyflwyniad i’r darlithoedd hyn, bydd Saunders a Thynged yr Iaith ar nos Sul, 5.45pm yn gyfle i Vaughan Roderick roi darlith radio Saunders Lewis yn ei chyd-destun hanesyddol a chymdeithasol, gan holi pa mor ddylanwadol oedd y ddarlith mewn gwirionedd gyda’i westeion arbennig Gareth Miles, Dr John Davies, Dr Harri Pritchard Jones a’r colofnydd a’r hanesydd Hywel Williams.
Bydd y rhaglen newyddion foreol, Post Cyntaf, allan ar daith yr wythnos nesaf, wrth iddi ddatgelu manylion arolwg barn newydd ar yr iaith gan BBC Radio Cymru; adroddiad Bwrdd yr Iaith sydd yn edrych ar gyflwr yr iaith yn ein cymunedau; effaith toriadau ariannol ar yr iaith a’r mentrau iaith a hefyd pam ei bod hi’n her cael pobl ifanc i siarad yr iaith. O ddydd Llun - Gwener, Chwefror 13 - 17, bydd tîm y Post yn ymweld â Phontypridd, Llanfair Caereinion, Wrecsam, Botwnnog a Rhydaman.
"All neb ddiystyru arwyddocâd darlledu Tynged yr Iaith ar y BBC yn 1962. Fe arweiniodd at drobwynt yn hanes yr iaith Gymraeg ac at ddeffroad cenedlaethol ynglyn â sefyllfa’r iaith," meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru.


Mae