« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Manylu: 'Dymchwel fel pac o gardiau': Argyfwng y gwasanaeth iechyd yn y gorllewin a'r canolbarth

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|15:14, Dydd Llun, 6 Chwefror 2012

Yng ngorllewin a chanolbarth Cymru, mae'r gwasanaeth iechyd yn wynebu argyfwng wrth i gynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ad-drefnu eu gwasanaeth greu panic a dicter ymhlith cleifion a meddygon.

Ar Manylu heno fe fydd llawfeddyg mwya' profiadol Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn son am ei bryderon e' am ddyfodol yr ysbyty.

Mae John Llewelyn Edwards yn rhybuddio y gallai torri gwasanaethau ym Mronglais gael effaith pell-gyrhaeddol.

"Rwy' yn pryderu, achos rwy'n gweld y bydd rhaid gwneud newidiadau i'r gwasanaeth, ond y perygl yw, unwaith y tynnwch chi wasanaeth allweddol allan o ysbyty mae hynny'n cael effaith ar adrannau eraill, a'r perygl yw y bydd y cwbl yn dymchwel fel pac o gardiau," meddai Mr Edwards.

Daw ei rybudd ychydig ddyddiau wedi i hanner cant o feddygon yr ysbyty arwyddo llythyr yn dweud eu bod nhw wedi colli hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae ymgyrchwyr o ardaloedd eraill yn sir Gaerfyrddin, Powys a thu hwnt hefyd wedi lleisio pryder mawr am y toriadau posib sy'n cael eu hystyried gan y Bwrdd.

Heno ar Manylu, pa mor iach yw dyfodol y gwasanaeth iechyd yng ngorllewin a chanolbarth Cymru?

Manylu am 6 o'r gloch ar BBC Radio Cymru.