« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ocsiwn Plant Mewn Angen Radio Cymru

Categorïau:

NewyddionNewyddion|13:17, Dydd Iau, 17 Tachwedd 2011

... gyda'r arwerthwr Stifyn Parri! yn dechrau ar raglen Dafydd a Caryl ac yn parhau hyd at raglen Geraint Lloyd yn y prynhawn.

Pecyn Cwpan Rygbi'r Byd

Mae'r eitemau fydd yn mynd o dan y morthwyl yn cynnwys:
  • Sgidiau pêl-droed wedi eu llofnodi gan Aaron Ramsey
  • Pêl, poster a rhaglen swyddogol Cwpan Rygbi'r Byd wedi ei llofnodi gan sgwad Cymru
  • Crys wedi ei lofnodi gan dîm pêl-droed Abertawe
  • Pecyn rygbi - rhaglen wreiddiol o gêm Llanelli v Crysau Duon 1972 lle curodd Llanelli, rhaglen arall wedi ei llofnodi gan y tîm buddugol hwnnw, dwy set o docynnau teulu y Scarlets
  • Arwydd Cwmderi wedi ei lofnodi gan gast y gyfres ddrama
  • Cân wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan Caryl Parry Jones
  • Gwely a brecwast am ddwy noson i ddau yn y King's Head yn Llanymddyfri
  • Diwrnod yn RAF Fali
  • Englyn wedi ei sgrifennu yn arbennig i'r derbyniwr gan Rhys Iorwerth
  • Diwrnod yn pysgota gyda Julian Lewis Jones
  • Safle carafán efo trydan ym maes carafannau Eisteddfod Genedlaethol 2012 - gwerth £250.
  • Poster o'r reslwr Mason Ryan.



Y rhif i wneud cynnig ar y dydd yw 03703 500 500*.

Gwefan Ocsiwn Plant Mewn Angen Radio Cymru



*Cyfradd y DU yw 0370 sy'n costio dim rhagor na rhifau daearyddol 01/02. Gellir recordio galwadau at ddibenion hyfforddiant.