Lansio CD Cân y Babis ar gyfer Plant Mewn Angen
Mae CD arbennig iawn gan Caryl Parry Jones wedi cyrraedd y siopau, gyda’r elw yn mynd at elusen y BBC, Plant Mewn Angen.

Pan gyflwynodd Caryl Parry Jones eitem newydd ar ei rhaglen foreol gyda Dafydd Du ar BBC Radio Cymru, Dafydd a Caryl, roedd yn gyfle iddi gyfuno ei dawn fel cyfansoddwr gyda chyflwyno cyfarchion ddoi i’r rhaglen i fabis bach newydd anedig. Yr eitem oedd Cân y Babis, sef cân wedi ei chyfansoddi gan Caryl ei hun, yn cynnwys enwau babis bach o’r holl gyfarchion. Mae’r eitem sydd bellach yn un fisol ar y rhaglen, wedi profi mor boblogaidd fel bo CD arbennig wedi ei chreu o’r holl ganeuon hyd yn hyn.
“Pan mae yna geisiadau o’r fath yn dod i mewn, mae Daf a fi yn ecseitio’n lan beth bynnag achos ryden ni’n dau yn licio babis,” meddai Caryl, “ond mi drodd y syniad gwreiddiol o wneud roll-call o holl enwau’r mis yn syniad i wneud cân y mis i groesawu pwy bynnag oedd wedi glanio yn y byd y mis hwnnw.
“I mi mae cyfansoddi’r diwn yn hawdd, ond y peth anodd ydi rhoi’r holl enwau mewn trefn, rhag ofn i ni anghofio rhywun! Roedd na gymaint o bobol yn holi am gopïau o’r caneuon ar CD mi feddylion ni y byddai gwneud CD i’w gwerthu yn ffordd dda o godi arian i Plant Mewn Angen. Dwi’n meddwl bod o wedi gweithio, ac mae’r cynhyrchydd Christian Phillips wedi gwneud gwaith anghoel – dydw i ddim y gitarydd gorau yn y byd ond mae’r caneuon yn swnio’n wych!”
Bydd CD Cân y Babis a gynhyrchwyd ac a ddosbarthir gan gwmni Sain, yn cael ei lansio yn ward mamolaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ar ddiwrnod Plant Mewn Angen, Dydd Gwener, Tachwedd 18, lle bydd rhaglen Dafydd a Caryl yn darlledu yn fyw o’r ward. Bydd y caneuon hefyd ar gael i’w prynu ar iTunes a hefyd ar wefan Sain.
Dywedodd Pennaeth Bydwreigiaeth Sir Gâr, Julie Jenkins: “Rydym yn edrych mlaen yn arw at groesawu Dafydd a Caryl i'r ward, gan ein bod yn mwynhau gwrando ar y rhaglen. Rwy'n siŵr bydd sawl un o’n mamau’n awyddus i gymryd rhan ar y diwrnod. Mae tua 1,700 o fabanod yn cael eu geni ar ward Dinefwr bob blwyddyn, ac mae hi wir yn fraint bod yn rhan o bob un o’r genedigaethau hyn.”
Digwyddiad mawr arall ar ddiwrnod Plant Mewn Angen yw Ocsiwn Radio Cymru, ac eleni Stifyn Parri yw’r arwerthwr. Bydd yr Ocsiwn yn dechrau ar raglen Dafydd a Caryl ac yn parhau hyd at raglen Geraint Lloyd yn y prynhawn.
Mae’r eitemau fydd yn mynd o dan y morthwyl yn cynnwys:
- Sgidiau pêl-droed wedi eu llofnodi gan Aaron Ramsey
- Pêl swyddogol Cwpan Rygbi’r Byd wedi ei llofnodi gan sgwad Cymru
- Crys wedi ei lofnodi gan dîm pêl-droed Abertawe
- Pecyn rygbi - rhaglen wreiddiol o gêm Llanelli v Crysau Duon 1972 lle curodd Llanelli, rhaglen arall wedi ei llofnodi gan y tîm buddugol hwnnw, dwy set o docynnau teulu y Scarlets
- Arwydd Cwmderi wedi ei lofnodi gan gast y gyfres ddrama
- Cân wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan Caryl Parry Jones
- Gwely a brecwast am ddwy noson i ddau yn y King’s Head yn Llanymddyfri
- Diwrnod yn RAF Fali
- Englyn wedi ei sgrifennu yn arbennig i’r derbyniwr gan Rhys Iorwerth
- Diwrnod yn pysgota gyda Julian Lewis Jones
- Safle carafán efo trydan ym maes carafannau Eisteddfod Genedlaethol 2012 - gwerth £250.
- Poster o’r reslwr Mason Ryan.
Mae'r eitemau i gyd ar wefan Radio Cymru.
Trwy gydol wythnos nesaf bydd Hywel Gwynfryn yn ymweld ag elusennau sydd wedi elwa o arian Plant Mewn Angen, gan gyfrannu eitemau ar amrywiol raglenni Radio Cymru.
Linc: Ocsiwn Radio Cymru


Mae