Gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am stormydd mawr ddiwedd mis Hydref ai cyd-ddigwyddiad yw hi bod un o gorwyntoedd gwaethaf Prydain wedi digwydd yng Nghymru union 100 mlynedd yn ôl?
Ar Hydref 27 1913, fe ‘sgubodd corwynt drwy ardal Cwm Taf yn ne Cymru gan achosi difrod enfawr a lladd tri o bobl.
Mae’r lluniau yma yn dangos maint y difrod yn ardal Trefforest, Cilfynydd, Abercynon ac Edwardsville. Diolch i Archifau Morgannwg a gwefan Old Merthyr Tydfil am ganiatâd i’w dangos.
Digwyddodd cwta bythefnos ar ôl y ffrwydriad enfawr yng nglofa Senghennydd ac felly roedd nifer o ffotograffwyr yn dal yn ne Cymru wrth law i gofnodi’r llanast.
Ewch i wefan Wales Online i weld mwy o luniau, a darllen hanes prosiect ym Merthyr i greu archif ar-lein o luniau a straeon pobl leol o’r digwyddiad.
Ond nid dyma’r unig storm enwog ym mis Hydref: roedd llongddrylliad yr Hindlea mewn storm arswydus oddi ar arfordir Môn ar yr un dyddiad, Hydref 27, yn 1959 a suddodd y Royal Charter mewn storm debyg union 100 mlynedd cyn hynny, ac yn yr un lle, ar Hydref 26 1859.
