Main content

Cayo a Chofio Cwm Celyn

Lyn Ebenezer

Newyddiadurwr

Ers sefydlu BBC Cymru yn 1964 mae'r gwasanaeth newyddion wedi hen ennill ei blwy. Y newyddiadurwr Lyn Ebenezer sy'n rhannu ei brofiad personol am un o straeon mawr yr hanner can mlynedd diwethaf.

Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys

Cafodd pentref Capel Celyn ei foddi yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr newydd Tryweryn.

Ychydig ddyddiau cyn agoriad swyddogol argae Tryweryn gwahoddwyd Cayo Evans a finne i sgwrsio ar raglen Heddiw, BBC Cymru. Cayo, wrth gwrs, oedd arweinydd Byddin Rhyddid Cymru a finne’n cael fy ystyried yn benboethyn. Caniatawyd i Cayo siarad yn Saesneg, er bod ei Gymraeg yn gwbl dderbyniol.

Y syniad oedd cael dwy farn wahanol. Roeddwn i dros gadw draw o’r ffars drist. Ac fe wnes. Roedd Cayo, ar y llaw arall, am ddefnyddio’r achlysur fel propaganda. Ac fe lwyddodd. Gwelwyd ef a dau arall, Dafydd ‘Sanchez’ Williams a Wyn Jones, y ddau o Aberystwyth gydag ef, y tri mewn lifrai’r FWA. Hwn oedd ymddangosiad cyhoeddus cyntaf aelodau o’r ‘fyddin’ a chafwyd ymateb anhygoel yn y wasg ac ar y cyfryngau.

Yn y dyddiau hynny cynhelid ymarferion cyn dangos eitemau byw ar Heddiw, a gofynnwyd i ninnau fynd drwy’n pethe yn ystod y prynhawn. Yr holwr – un da hefyd – oedd yr annwyl Owen Edwards.

Yn y rihyrsal aeth ati i bryfocio Cayo. Aeth ati yn arbennig i wawdio’n ysgafn arwydd yr FWA, sef Eryr Gwyn Eryri.

‘Where did you get this ridiculous idea?’ gofynnodd i Cayo.

Ateb di-flewyn ar dafod Cayo oedd: ‘Damn it all, man, don’t you read your own grandfather’s books?’

Oedd, roedd O M Edwards wedi creu chwedl o gwmpas yr Eryr Gwyn a chyhoeddi’r hanesyn hwnnw yn un o’i lyfrau. Ni ofynnwyd y cwestiwn eilwaith yn ystod y rhaglen fyw! Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan adawodd Owen y cyfryngau, fe wnaeth ddwyn ar gof y digwyddiad yn gyhoeddus wrth iddo gael ei holi ar raglen deledu. Arwydd o ddyn cadarn a gonest. Owen a Cayo, y ddau wedi’n hen adael. Coffa da am y ddau.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Stormydd Hydref

Nesaf

Hanner canrif o frethyn?