Heno dwi am chwarae rhai o uchafbwyntiau cerddorol chwe Mis cyntaf 2014 ar y rhaglen.
Dyma fy 10 uchafbwynt hyd yma.

Ed Holden - Mr Phormula
1 Mr Phormula - Hip-Hop Cymraeg
Un o draciau gorau’r flwyddyn! Ar ôl cyfnod gweddol dawel i hip-hop Cymraeg, mi oedd hi mor braf gweld cymaint o leisiau gorau’r sin yng Nghymru yn dod at ei gilydd hefo Mr Phormula i greu trac llawn hyder a balchder!

Gruff Rhys
2 Gruff Rhys - Iolo
Mae American Interior Gruff Rhys yn cynnwys albwm, llyfr, ap a ffilm - ond dyma fy hoff beth i am y prosiect! Mae’r llinynnau, sydd wedi eu trefnu gan yr athrylith Gruff Ab Arwel, yn codi’r gân i uchafbwynt anhygoel ar ddiwedd y gân. Perffaith!
Ywain Gwynedd yn sgwrsio am ei albym newydd
3 Ywain Gwynedd - Codi Cysgu
Mae Yws yn ôl hefo’i ganeuon newydd cyntaf ers i Frizbee chwalu yn 2008. Mae’r albwm yn llawn dop o ganeuon bachog a riffs gwych. Ar ôl iddo wneud sesiwn i’r rhaglen llynedd, dwi mor falch ei weld o yn ôl - mae Yws yn sicr yn gwybod sut i sgwennu tiwn!
4 9 Bach - Tincian
Ail albwm 9 Bach - a chasgliad o ganeuon gwreiddiol cyntaf Lisa Jên. Erbyn hyn, mae 9 Bach wedi arwyddo i Real World Records (label Peter Gabriel) ac mae Lliwiau yn llawn caneuon hyfryd, bregus. Mi fydd Lisa, Mirain ac Esyllt o’r grŵp ar y rhaglen ar Orffennaf 16 i edrych yn ôl ar y cyfnod.

Casi
5 Merched ar restr fer Artist Unigol Y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar
Mi oedd hi’n wych gweld tair o fy hoff artistiaid - Casi, Kizzy Crawford a Georgia Ruth yn llenwi rhestr fer Artist Unigol Y Flwyddyn. Mae’n braf hefyd gweld Casi a Kizzy yn rhan o brosiect Gorwelion - a dwi’n falch iawn clywed fod Georgia yn gweithio ar ganeuon newydd,
6 Klep Dim Trep yn atgyfodi!
Fe wnaeth prosiect diweddara Gruff Ab Arwel a Dafydd Owain - perchnogion label Klep Dim Trep - godi gwen, ond mi oedd y ddau grŵp a’r gerddoriaeth ddaeth o’r syniad (sydd lawer rhy gymhleth i’w esbonio yn fa’ma!!!) yn wirioneddol wefreiddiol. Ewch i wrando ar Saron a Bur Hoff Bau!

Al Lewis
7 Al Lewis Band - Heulwen O Hiraeth
Un o artistiaid mwyaf poblogaidd a phrysur Gymru - mae Heulwen O Hiraeth yn gyfuniad o ganeuon bachog gwreiddiol gan Al Lewis Ac Arwel Lloyd, a “cyfyrs” difyr fel Esmerelda / Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, a Gwlith y Wawr / Big Leaves. Mae’r teitl drac - deuawd hefo Sarah Howells - yn fendigedig!
8 CAM1
Albwm aml-gyfrannog arbrofol, dywyll, gan griw gweithgar label Peski. Mae hon yn gwbl wahanol i unrhyw beth arall sydd wedi cael ei ryddhau eleni yng Nghymru, a ma’ gyfraniad Peski i gerddoriaeth amgen Gymraeg yn amhrisiadwy.
9 Senglau I-Ka-Ching
Dyma griw arall sy’n gwneud eu gorau i roi llwyfan i artistiaid newydd talentog, ac eleni mae I-Ka-Ching wedi rhyddhau senglau gwych gan Yr Eira a Y Reu. Ma’ ‘na sŵn cyfoes iawn i bopeth sy’n dod o stabl I-Ka-Ching, sy’n braf iawn ei weld.
Mae Chris Jones yn un o artistiaid prosiect Gorwelion, a dwi wir wedi mwynhau ei weld yn perfformio ledled Cymru. Fe ges i’r fraint o gael awr yn ei gwmni yn ddiweddar, ac mae’n gerddor gwerin hynod dalentog a diymhongar. Edrych ymlaen at glywed ei albwm fydd allan yn fuan iawn.
