Blog C2
Negeseuon
Uchafbwyntiau Cerddorol Chwe Mis Cyntaf 2014
Lisa Gwilym
Heno dwi am chwarae rhai o uchafbwyntiau cerddorol chwe Mis cyntaf 2014 ar y rhaglen.
Dyma fy 10 uchafbwynt hyd yma.

Ed Holden - Mr Phormula
1 Mr Phormula - Hip-Hop Cymraeg
Un o draciau gorau’r flwyddyn! Ar ôl cyfnod gweddol dawel i hip-hop Cymraeg, mi oedd hi mor braf gweld cymaint o leisiau gorau’r sin yng Nghymru yn dod at ei gilydd hefo Mr Phormula i greu trac llawn hyder a balchder!

Gruff Rhys
2 Gruff Rhys - Iolo
Mae American Interior Gruff Rhys yn cynnwys albwm, llyfr, ap a ffilm - ond dyma fy hoff beth i am y prosiect! Mae’r llinynnau, sydd wedi eu trefnu gan yr athrylith Gruff Ab Arwel, yn codi’r gân i uchafbwynt anhygoel ar ddiwedd y gân. Perffaith!
Ywain Gwynedd yn sgwrsio am ei albym newydd
Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2014
Lisa Gwilym
Un o'r pethe dwi'n fwynhau fwyaf am gyflwyno ar C2 ydy medru rhoi sylw a chyfleon i fandiau ifanc hollol newydd - drwy chwarae 'demos', recordio sesiyne a chyfweliadau - ac, wrth gwrs drwy gyflwyno Brwydr y Bandiau!
Bob blwyddyn 'da ni - ar y cyd hefo'r Mentrau Iaith - yn cynnal Brwydr y Bandiau, ac yn rhoi'r cyfle i 6 o fandiau ifanc gael sylw a phrofiad! Mae'r wobr i'r band buddugol yn wych - y cyfle i recordio Sesiwn C2, gigio yn Maes-B, erthygl yng Nghylgrawn Y Selar, a llawer mwy.
Nos Fawrth a nos Fercher nesa mae'r rowndiau cyn-derfynnol yn cael eu cynnal - nos Fawrth hefo Ifan Evans a nos Fercher hefo fi! Mae 3 beirniad profiadol iawn am fod yn rhoi eu barn ar y bandiau; Griff Lynch o'r Ods, Ifan Davies o Swnami, a Branwen o Cowbois Rhos Btownnog a Siddi, felly mi fydd hi'n ddifyr iawn clywed eu barn... OND dim ond eich pleidlais chi fydd yn cyfri felly cofiwch wrando nos Fawrth a nos Fercher am 7pm i glywed y bandiau ac i fwrw eich pleidlais.
Pob lwc i'r 6 a chofiwch wrando ar sesiwn gan enillwyr y gystadleuaeth yn 2013 Y Ffug!
Lis!
Sesiwn C2 i Huw Stephens
Taith C2: Ysgol Bro Dinefwr, Campws Tregib
Taith C2
Clipiau ac uchafbwyntiau Taith C2 Ysgol Bro Dinefwr - Campws Tregib.
Cliciwch i weld Oriel Luniau Ysgol Bro Dinefwr - Campws Tregib.
Band yr ysgol
Be sy ore? Rygbi neu bêl-droed?
Be ma'r criw moyn yn eu hosan 'Dolig?
Grwp Roc Ysgol Bro Dinefwr - Campws Tregib.
Taith C2: Ysgol Bro Dinefwr - Campws Pantycelyn
Taith C2
Clipiau ac uchafbwyntiau Taith C2 Ysgol Bro Dinefwr - Campws Pantycelyn.
Cliciwch i weld Oriel Luniau Ysgol Bro Dinefwr - Campws Pantycelyn.
Taith C2: Ysgol Bro Dinefwr - Campws Pantycelyn
Band yr ysgol - Recliws gyda'r gan Ysgol
Ywain Gwynedd: 'Da Ni 'Nol
Lisa Gwilym
'Chydig dros 10 mlynedd yn ol, fe recordiodd band newydd sbon sesiwn C2. Dora Gusan, Ar Ol 9 a Ti (Si Hei Lw) oedd y caneuon ar y sesiwn, a'r band oedd Frizbee. Dros y blynyddoedd nesa, fe ddaeth Frizbee yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru, gan fod yn brif fand Maes-B yn 2007 a chloi'r Sesiwn Fawr yn 2006.
Dros y blynyddoedd hefyd, fe ddaeth Ywain, Ows Goch a Jase yn dipyn o ffrindiau i ni ar raglen Lisa Gwilym, gan recordio 2 sesiwn acwstic go arbennig i Lisa oedd yn cynnwys "Heyla Lisa"! Yn anffodus, fe chwalodd y band ar ol rhyddhau'r trydydd album 'Creaduriaid Nosol'. Fe aeth Ows Goch…
Taith C2: Ysgol Llangynwyd
Criw C2
Clipiau ac uchafbwyntiau Taith C2 Ysgol Llangynwyd.
Ysgol Llangynnwyd: Rhydian a Rowan yn trafod rygbi
Ysgol Llangynnwyd: Xbox neu Playstation?
Band Ysgol Llangynnwyd: Carpion - Ffrind i mi
Taith C2: Ysgol Llanhari
Criw C2
Clipiau ac uchafbwyntiau Taith C2 Ysgol Llanhari.
Cyfweliad Ifan Jenkins Only Boys Aloud
Cyfweliad Shauna am ei campau nofio.
Sgyrsio gyda aeolodau band Llanhari 14.
Taith Ysgolion C2: Ysgol Gartholwg
Criw C2
Cyfweliad Trystan gan grwp Rachel
Jocs gan griw Ysgol Gartholwg
Atalnodi gan griw Ysgol Gartholwg.
Taith Ysgolion C2: Ysgol y Creuddyn
Criw C2
Clipiau ac uchafbwyntiau Taith C2 / Ciwdod i Ysgol Y Creuddyn.
Trac wedi ei recordio gan grwp Ysgol y Creuddyn.
Cwis y chweched, Ysgol y Creuddyn.
Disgyblion Ysgol y Creuddyn yn ateb y cwestiwn.
Taith Ysgolion C2 - Ysgol Dyffryn Conwy
Criw C2
Lluniau clipiau ac uchafbwyntiau Taith C2 / Ciwdod i Ysgol Dyffryn Conwy.
Pwy yw hoff artist Prifathro Ysgol Dyffryn Conwy?
Hoff Jocs disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy
Ysgol Dyffryn Conwy - disgrifio Tomos Lloyd

