Wedi cyhoeddi enillwyr Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru daeth yn amlwg fod un o aelodau’r band buddugol dan 16 oed.
Camgymeriad gweinyddol ar ein rhan ni oedd y rheswm am hyn ac nid oedd bai ar y band, felly penderfynwyd na fyddai’r band yn cael ei ddiarddel o’r gystadeluaeth gan eu bod wedi ennill ar ragoriaeth eu perfformiad.
Ond er mwyn dangos ewyllys da tuag at y grwpiau a ddaeth yn ail a thrydydd ym Mrwydr y Bandiau y mae Radio Cymru wedi cynnig sesiwn recordio gydag C2 iddynt.
