Archifau Mai 2011

Mae gan Dodd Com dalent!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|12:10, Dydd Mawrth, 31 Mai 2011

Sylwadau (0)

Heno ar Dodd Com byddwn ni'n sgwrsio ag un o dalentau cerddorol mwyaf addawaol Prydain! Mae hon yn wythnos allai newid bywyd Jay Worley o Ysgol Gyfun Gartholwg am byth gan ei fod wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol Britain’s Got Talent. Bydd yn canu'n fyw o flaen Amanda Holden, Michael McIntyre, yr Hoff-feistr a miliynau o wylwyr teledu wrth ymladd am ei le yn y rownd derfynol fyw nos Sadwrn!

Mae Jay yn hen gyfarwydd â stiwdio Dodd Com – n’ôl ym mis Ebrill daeth i’r stiwdio i ganu’n fyw i ni fel rhan o fis Gwledd o Gerddoriaeth Radio Cymru. Dyma mash-yp arbennig Jay a Dan Evans o’r band Indie-Go-Modem o ganeuon traddodiadol Cymreig:

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.



Bydd Jay yn ymuno â ni i rannu’r hanes i gyd (a’r holl gossip cefn llwyfan!) ar y we am 7!

Gwyl Trip / Gig Race Horses

Categorïau:

Criw C2Criw C2|11:56, Dydd Mercher, 25 Mai 2011

Sylwadau (0)

S'mai bobol

Efallai fod rhai ohonoch wedi clywed fod Gwyl Trip, oedd i fod i ddigwydd y penwythnos yma yn y Faenol, wedi ei ganslo. OND... mae aelodau rhai o'r bandiau oedd i fod i chwarae yno wedi trefnu gig arall - dyma ebost gan Gwion o'r Race Horses

Cofion

Gareth

Smai



Fyddai modd i chi bostio hwn fyny ar eich gwefan os gwelwch yn dda.



RACE HORSES

WE ARE ANIMAL

YUCATAN

GINTIS


Gan fod Gwyl Trip wedi ei ganslo eleni, rydym wedi rhoi gig at ei gilydd yng nghlwb Base, Bangor.

£3 ar y drws. Drysau am 8.30, a'r band ola' yn gorffen am 1yb.



Diolch



Gwion

Elen Gwynne am ddeg o'r gloch

Categorïau:

Ifan EvansIfan Evans|21:15, Dydd Mawrth, 24 Mai 2011

Sylwadau (0)

Nosweth dda i chi gyd unwaith eto. Y gyflwynwraig deledu Elen Gwynne yw fy ngwestai arbennig i heno. Edrych mlan i sgwrsio gyda hi nes mlan achos mae'n dipyn o gymeriad yn ol y sôn!

Ac yna ar ôl 11, bydd y dyn dwl Owain Llyr yn dod fewn ata i fel arfer i edrych yn ôl ar yr hyn sy di bod yn digwydd yn meysydd chwaraeon dros yr wthnos ddwetha - yn ei ffordd arbennig e!

Cofiwch wrando ble bynnag fyddwch chi am 10!

C(rymych)2, Radio Cymru

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|14:07, Dydd Mawrth, 24 Mai 2011

Sylwadau (0)

Neithiwr, mi nath 5 o ddisgyblion Ysgol y Preseli gyflwyno rhaglen gyfan o Dodd Com. Mi oedd Sion, Ffion, Gwil, Rhodri ac Andrew (heb anghofio Eurfyl!) yn ANHYGOEL! A heno, mi fydda i a Gruff yn rhannu awr Dodd-Com gyda disgyblion blwyddyn 10 yr ysgol. Felly nhw fydd yn dewis y gerddoriaeth, mi gewch chi glywed eitemau wedi eu recordio ganddyn nhw, a chyfle i glywed fersiwn hyfryd o gân Adele - Feel My Love wedi ei chanu gan rhai o'r merched.

Felly - welwn ni chi am 7 - bbc.co.uk/c2

Magi x

Taith Gruff Rhys

Categorïau:

Criw C2Criw C2|12:17, Dydd Llun, 23 Mai 2011

Sylwadau (0)

P'nawn da!

Mae Gruff Rhys wedi cyhoeddi taith mis Hydref! Dyma'r dyddiadau a'r lleoliadau:

Sul, Hydref 2il - Theatr Gogledd Cymru, Llandudno

Llun, Hydref 3ydd - Theatr Olympia, Dulyn

Mercher Hydref 5ed - Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Iau Hydref 6ed - Canolfan Wyddelig Leeds, Leeds

Gwener Hydref 7fed - Neuadd Canolfan Fethodistaidd, Manceinion

Sadwrn Hydref 8fed - Clwb Bongo - Caeredin

Sul Hydref 9fed - The Middlesbrough Crypt, Middlesbrough

Mawrth Hydref 11eg - Neuadd Gyngerdd, Reading

Mercher Hydref 12fed - Shepherd's Bush Empire, Llundain

Iau Hydref 13eg - Eglwys Santes Fait, Ashford

Mwy o fanylion o gruffrhys.com !

Cyfarchion O Grymych!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|11:01, Dydd Llun, 23 Mai 2011

Sylwadau (0)

Heddiw mae criw C2 wedi cyrraedd Ysgol y Preseli ar gyfer gweithdy go arbennig! Nol ym mis Mawrth, tim cwis pop yr ysgol oedd y cyntaf i ennill tair gornest yn olynol cyn mynd ymlaen i drechu Penpopwyr C2!

Heno felly bydden nhw'n cael y cyfle i feddianu rhaglen gyfan o Dodd Com yn fyw ar y we rhwng 7 ag 8!

Os yw'r criw am gynal y safon arbennig o uchel arferol a boddhau ein gwrandawyr hyfryd yna mae diwrnod hir o'u blaenau o baratoi eitemau, sgriptio lincs, trefnu gwesteion a dewis y gerddoriaeth orau!

Mae'n gaddo bod yn awr wyllt a gwallgo... cofiwch wrando!

Criw Ysgol y Preseli

Criw Ysgol y Preseli

Prosiect 'post-Promatics'

Categorïau:

Criw C2Criw C2|10:29, Dydd Gwener, 20 Mai 2011

Sylwadau (0)

Bron i flwyddyn ar ôl i'r Promatics chwarae ei gig olaf yn Eisteddfod Glyn Ebwy mae'r cyn prif leisiwr Dan Williams yn ôl gyda phrosiect 'post-Promatics' newydd.

Dan Williams cyn prif leisiwr Y Promatics

Mae Dan wedi bod wrthi'n recordio yn stiwdio ei hun ac wedi rhoi'r trac cyntaf (Y Gwir) ar wefan soundcloud trwy ddefnyddio'r enw Kronwall. Cafodd y trac ei chwarae am y tro cyntaf neithiwr ar raglen Lisa Gwilym.

Yr ydym yn edrych 'mlaen at glywed mwy.

Gigs CYIG - Eisteddfod 2011

Categorïau:

Criw C2Criw C2|16:03, Dydd Iau, 19 Mai 2011

Sylwadau (0)

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion eu harlwy cerddorol nhw yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011, pan fyddan nhw yn cymeryd drosodd clwb nos yr Orsaf Ganolog (Central Station) ynghanol y dref.

Mae'r tocynnau ar werth arlein RWAN o wefan Cymfeithas yr Iaith. a gallwch brynnu tocynnau hefyd o Gaffi Yales ger yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam; o Awen Meirion, Bala; ac o Siop Elfair, Rhuthun - a hefyd o swyddfeydd Cymdeithas yr Iaith yng Nghaernarfon (01286 662908); Aberystwyth (01970 624501) a Chaerdydd (02920 486469).

Dyma beth sydd ymlaen ganddyn nhw bob nos:

Nos Sul, Gorffennaf 31:

Ffilm: Separado (ac ymddangosiad byw a pherfformiad gan Rene Griffiths ei hun!)

Pictiwrs yn y Pyb

8pm-12.30am, £6

Nos Lun, 1 Awst

Noson gomedi wedi ei noddi gan 'Ddoe Am Ddeg'

Dr Hywel Ffiaidd

8pm-1am, £8

Nos Fawrth, 2 Awst

Bryn Fon a'r Band

Daniel Lloyd a Mr Pinc

Al Lewis Band

Y Saethau

Ryan Kift

8pm-2.30am, £9

Nos Fercher, 3 Awst

Mici Plwm yn cyflwyno...

Maffia Mr Huws

Heather Jones

Gai Toms a'r Band

Jen Jeniro

Ian Rush

8pm - 2.30am, £9

Nos Iau, 4 Awst

Mr Huw

Twmffat

Llwybr Llaethog

Crash.Disco!

Dau Cefn

Llyr PSI

8pm-2.30am, £7

Nos Wener, 5 Awst

Meic Stevens

Tecwyn Ifan

Gwilym Morus

Lleuwen

Sen Segur

Tom ap Dan

Carlos Jesus Morales (o Chile)

9pm - 3.30am, £9

Nos Sadwrn, 6 Awst

Band Cambria

Mother of Six

Brwydr Kung Fu a Taekwondo

Bob Delyn

Geraint Lovgreen

7pm- 4am, £8



Mae'r clwb yn Stryd yr Allt (tu cefn i Regent St, prif stryd canol y dref yn Wrecsam).

Braf bod yn ôl!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|14:57, Dydd Iau, 19 Mai 2011

Sylwadau (0)

S'mai bobl hyfryd! Georgia Ruth yn galw. Braf gweld yr haul yn dangos 'i wyneb o'r diwedd, a dyma flogsen i ddathlu ail-ddyfodiad yr Haf.

Ma'n braf ofnadwy cael bod yn ôl ar C2, a gobeithio'n arw eich bod chi'n mwynhau'r rhaglen.

Os na gawsoch chi gyfle i wrando i'r sioe neithiwr, yna dyma gyplysiad i chi o be fues i'n chwarae. Ac i'r sawl ohono chi fu yn gwrando, da iawn trwps, dyma gyfle i chi ailfyw'r profiad!

'Ma tipyn wedi'i sgwennu yn ddiweddar am yr artist o Philadelphia, Kurt Vile (nid i'w gymysgu efo Kurt Weil, y cyfansoddwr Amlaeneg!), ac mi wnes i chwarae'r trac agoriadol oddi ar ei record diweddara' - Smoke Rings For My Halo (Matador). Os wnewch chi ddychmygu cyfuniad o Richard Ashcroft a Tom Petty, a thaflu geiriau sinistr a hiraethog i fewn i'r bwndl, yna mi fydd gennych ryw syniad o beth yw arddull Kurt. Mi fues i hefyd yn chwarae traciau gan Cusan Tan, Taj Mahal, Galwad y Mynydd, Iwan Huws a Steve Eaves. Digon o sacsaffons a basau ddwbwl i greu 10 band jazz ; a digon o ganu gwlad i gynnal Tecsas am o leia' degawd arall. Dani'n gwbod sut ma'i gwneud hi yng Nghymru, s'dim dadlau am hynny!

Fy ngwestai ar y rhaglen oedd Jodie Marie, artist ifanc 19 oed o Narberth sydd newydd arwyddo i labl Decca. Bues i'n holi Jodie am y cymhariaethau sydd wedi cael eu gwneud rhyngddi hi a rhai o gantoresau clir-leisiog y Laurel Canyon (Carole King, Joni Mitchell ag ati) ac yn darganfod tipyn am ddylanwad chwaeth gerddorol ei thad arni. Ma' sengl Jodie, Single Blank Canvas, allan rwan i'w llarlwytho. Mwy o wybodaeth: www.jodiemarie.co.uk

Bu Al Lewis yn gofyn yn neis a fydden i'n fodlon chwarae ei hoff gan Bob Dylan iddo. Ac mi wnes i, yn ddigon bodlon! Mi chwaraeais hefyd drac sesiwn a recordiwyd yn arbennig gan Al ar gyfer Huw Stephens. A chofiwch, am ragor o wybodaeth ar holl sesiynau C2 yna porwch y wefan: ma 'na drysorau i'w canfod yma, coeliwch fi.

Cofiwch, mi fydda'i nol nos Fercher nesaf am 10-12. Ar C2. Beth am ymuno efo fi? Ma'n bosib i chi glywed rhywbeth i leddfu'r chwant!

Gwrandewch eto yma

Newyddion y Sîn

Categorïau:

Criw C2Criw C2|09:46, Dydd Iau, 19 Mai 2011

Sylwadau (0)

Taith y Selar

Mae cylchgrawn y Selar yn trefnu taith ar hyd a lled Cymru.

Bandiau'r daith yw Creision Hud, Sen Segur a Trwbador.

23 Mehefin - Dempseys, Caerdydd

24 Mehefin - Clwb RAFA, Aberystwyth

25 Mehefin - The Parrot, Caerfyrddin

01 Gorffennaf - Clwb y Rheilffordd, Bangor

02 Gorffennaf - Y Legion, Llanrwst

Sesiwn Fawr Dolgellau

Mae criw lleol o Ddolgellau wedi ail sefydlu'r ŵyl sydd yn mynd yn ôl at ei gwreiddiau traddodiadol yn y dref.

Mae Cerys Matthews, Super Furry Animals, The Alarm a The Levellers wedi bod yn perfformio yn y Sesiwn ers iddo ei sefydlu.

Bydd yr ŵyl yng nghanol Mis Gorffennaf

15 Gorffennaf - Yr Ods, After an Alibi, Creision Hud, Crash.Disco!, Y Bandana, Candelas, Swnami

16 Gorffennaf - Mynediad am ddim, Calan,. Cowbois Rhos Botwnnog, Thompson, Adran D.

Mwy o fanylion yn rhestr Gigs C2 wrth iddyn nhw fod ar gael.



Wakestock

Ymhlith perfformwyr gŵyl Wakestock eleni bydd Sibrydion, Masters in France, Colorama, Huw Stephens fel compare, Ed Holden, Mr Huw, Bare Left.

Mae'r ŵyl ymlaen ym Mis Gorffennaf (8-10 fed) ac am fwy o fanylion ewch i wefan wakestock.co.uk

Pretty Places - Gwyliwch y Gofod

Categorïau:

Criw C2Criw C2|09:49, Dydd Mercher, 18 Mai 2011

Sylwadau (0)

Band Gwyliwch y Gofod diweddaraf C2 ydi Pretty Places.

Mae nhw'n fand tri aelod o Lanfairpwll, sydd wedi bod yn gigio'n galed yn ardal Bangor a Chaernarfon dros y misoedd diwethaf - a chael sylw cenedlaethol ar Radio Cymru, Radio Wales, a hefyd ar BBC 6 Music.

Indie-pop hwyliog a hafaidd, mae Pretty Places yn gwneud enw iddyn nhw eu hunain ar union amser cywir y flwyddyn!

Sesiwn Candelas

Categorïau:

Criw C2Criw C2|13:41, Dydd Mawrth, 17 Mai 2011

Sylwadau (0)

Neithiwr ar raglen Georgia Ruth Williams cafodd sesiwn stiwdio newydd sbon gan Candelas ei darlledu am y tro cyntaf.

Fe wnaeth y band recordio'r sesiwn mewn stiwdio yn eu cartref ac mae'n swnio'n WYCH!

Daw'r bechgyn yn wreiddiol o ardal Bala ond bellach wedi gwasgaru ar draws Cymru mewn Prifysgolion, ac mae'n gaddo bod yn hâf prysur iawn o gigio.

Mae'r dair cân newydd i'w clywed yma:

Sesiwn C2: Candelas

Albym newydd Geraint Jarman

Categorïau:

Criw C2Criw C2|10:34, Dydd Mercher, 11 Mai 2011

Sylwadau (0)

S'mai bobol

Os oes ganddoch chi awr rydd heno, ga' i awgrymu eich bod chi'n gwrando ar raglen Lisa Gwilym heno rhwng 8pm a 9pm.

Gwestai arbennig Lisa fydd Geraint Jarman, fydd yn siarad am ei albym newydd Brecwast Astronot. Ma' Lis di bod yn chwara' tracia' oddiar yr album yn barod, a heb air o or-ddeud, mae nhw'n ganeuon gwbl wych.

'Da ni wedi recordio'r cyfweliad yn barod, ac ma Geraint yn siarad yn ddifyr, onest ac yn agored am yr albym. Os 'da chi'n ffans o gerddoriaeth Geraint o'r saithdegau - yn enwedig Gobaith Mawr y Ganrif a Tacsi I'r Tywyllwch, mi fyddwch wrth eich bodd hefo'r albym newydd.

Dyma ragflas o'r sgwrs gafodd Geraint hefo Lisa.

Brecwast Astronot gan Geraint Jarman



Teyrnged i Les Morrison

Categorïau:

Criw C2Criw C2|09:37, Dydd Mercher, 11 Mai 2011

Sylwadau (0)

Nos Wener ar raglen Lisa Gwilym, roedd teyrnged arbennig i'r cerddor, cyfansoddwr a'r cynhyrchydd Les Morrison.

Yn cymryd rhan: Sion Jones (Maffia Mr Huws), Hefin Huws (Maffia Mr Huws / Offspring), Barry 'Archie' Jones (Celt), Pwyll Ap Sion, Dic Ben (The Peth), Bryn Fon, Elwyn Williams (Steve Eaves), a Twm Morys.

Gallwch wrando eto tan 8pm nos fory- mae'r deyrnged tua 1'04'00 i mewn

Cyhoeddi enillydd Brwydr y Bandiau 2011

Categorïau:

Criw C2Criw C2|11:23, Dydd Iau, 5 Mai 2011

Sylwadau (0)

Neithiwr ar C2 BBC Radio Cymru (Mai 4), cynhaliwyd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Menter Iaith Cymru a BBC Radio Cymru 2011, a chyhoeddwyd mai'r enillydd yw Siân Miriam o Ysgol Gyfun Llangefni, Sir Fôn. Bydd y disgybl 17 oed o Langristiolus nawr yn cael cyfleon i berfformio mewn amrywiol ddigwyddiadau cerddorol, recordio sesiwn i C2 BBC Radio Cymru a sylw yn y wasg fel rhan o'r wobr.

Siân Miriam

Wedi misoedd o gystadlu brwd ledled Cymru, daeth pedwar i'r rownd derfynol neithiwr, a phedwar gwahanol iawn o ran steil cerddoriaeth. Yn brwydro am y teitl yn erbyn Siân Miriam roedd Y Saethau o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Downhill, Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa, Cefneithin a Swnami, Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Enw cân fuddugol Sian Miriam yw Beth yw ystyr rhyfel?



Magi Dodd oedd yn cyflwyno rhaglen ar C2 BBC Radio Cymru gyda Rhodri Llwyd Morgan, cerddor a chanwr Cerrig Melys, y DJ Ian Cottrell, a Meilyr Gwynedd, canwr gyda'r band Sibrydion yn rhoi eu barn. Ond gan y gwrandawyr roedd y bleidlais i ddewis pwy fyddai'n ennill.

"Mae safon y bandiau sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth eleni yn arbennig o uchel, ac fe allai unrhyw un o'r pedwar fod yn enillwyr teilwng," meddai cyflwynwraig C2 Magi Dodd cyn y rhaglen.

"Beth sy'n braf yw fod pob un yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r gystadleuaeth, ac mae rhywbeth at ddant pawb yno. Mae wir yn bleser dilyn datblygiad y bandiau yma dros gyfnod y gystadleuaeth - o'u gweld yn fyw, i'w danfon i stiwdios recordio proffesiynol ac yna gael gweld y band buddugol yn manteisio'n llawn o'r wobr ar lwyfan Maes B neu recordio'u sesiwn i C2."

Cafodd y bandiau gyfle i recordio eu cân ar gyfer y rownd derfynol mewn stiwdio broffesiynol, ac wedi eu darlledu ar raglen C2, agorodd y llinellau ffôn i wrandawyr gael bwrw'u pleidleisiau.

Wedi i'r llinellau gau a'r pleidleisiau gael eu cyfri, cyhoeddwyd mai Siân Miriam oedd yr enillydd eleni, ac roedd y sgrechfeydd ben arall y ffôn yn arwydd clir bod Siân wrth ei bodd o glywed y newydd.

Ar raglen Dafydd a Caryl bore heddiw (Dydd Iau, Mai 5), yn ei chyfweliad cyntaf ers clywed ei bod wedi ennill y noson gynt, dywedodd Siân Miriam pa mor hapus oedd o dderbyn o wobr, a bod Caryl Parry Jones yn un o'r rhai a'i hysbrydolodd i ddechrau cyfansoddi a pherfformio, yn ddim ond 9 oed.

Disgrifiodd glywed ei bod wedi ennill fel "noson orau 'mywyd i" gan ychwanegu am berfformio ym Maes B Eisteddfod eleni fel rhan o'r wobr, "ellai'm dweud pa mor gyffrous ydi hynna!"

Mae'r wobr gyfan yn cynnwys:

  • cytundeb i recordio Sesiwn i C2 BBC Radio Cymru
  • perfformio ym Maes B, Eisteddfod Genedlaethol eleni
  • erthygl tudalen lawn yn un o rifynnau'r cylchgrawn 'Y Selar'
  • sesiwn lluniau hanner diwrnod efo ffotograffydd proffesiynol
  • gwahoddiad i berfformio yng ngŵyl Huw Stephens, Gŵyl Sŵn 2011
  • perfformio ar lwyfan Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol eleni
  • cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
  • cyfle i berfformio ar Daith Ysgolion C2 2011

Y ROWND DERFYNOL....

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|18:58, Dydd Mercher, 4 Mai 2011

Sylwadau (0)

O Frwydr y Bandiau, Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru. Ma popeth yn dechre ar C2 am wyth o'r gloch heno. Pwy fydd yn fuddugol? Chi - ie CHI sy'n dewis.

Swnami o ardal Dolgellau (Coleg Meirion Dwyfor)

Downhill o Gwm Gwendraeth (Ysgol Maes yr Yrfa)

Sian Miriam o Langefni (Ysgol Gyfun Llangefni)

Y Saethau o Gaernarfon (Ysgol Syr Huw Owen)

Llinellau pleidleisio yn agor am 21.30.

Cliciwch yma i weld proffeils fideo o'r bandiau.

Dwi'n edrych 'mlaen gymaint - meddwl bo fi'n mynd i ffrwydro. Poenus....

Welai chi am 8!

Magi x