Mae gan Dodd Com dalent!
Heno ar Dodd Com byddwn ni'n sgwrsio ag un o dalentau cerddorol mwyaf addawaol Prydain! Mae hon yn wythnos allai newid bywyd Jay Worley o Ysgol Gyfun Gartholwg am byth gan ei fod wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol Britain’s Got Talent. Bydd yn canu'n fyw o flaen Amanda Holden, Michael McIntyre, yr Hoff-feistr a miliynau o wylwyr teledu wrth ymladd am ei le yn y rownd derfynol fyw nos Sadwrn!
Mae Jay yn hen gyfarwydd â stiwdio Dodd Com – n’ôl ym mis Ebrill daeth i’r stiwdio i ganu’n fyw i ni fel rhan o fis Gwledd o Gerddoriaeth Radio Cymru. Dyma mash-yp arbennig Jay a Dan Evans o’r band Indie-Go-Modem o ganeuon traddodiadol Cymreig:
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Bydd Jay yn ymuno â ni i rannu’r hanes i gyd (a’r holl gossip cefn llwyfan!) ar y we am 7!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.