« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Braf bod yn ôl!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|14:57, Dydd Iau, 19 Mai 2011

S'mai bobl hyfryd! Georgia Ruth yn galw. Braf gweld yr haul yn dangos 'i wyneb o'r diwedd, a dyma flogsen i ddathlu ail-ddyfodiad yr Haf.

Ma'n braf ofnadwy cael bod yn ôl ar C2, a gobeithio'n arw eich bod chi'n mwynhau'r rhaglen.

Os na gawsoch chi gyfle i wrando i'r sioe neithiwr, yna dyma gyplysiad i chi o be fues i'n chwarae. Ac i'r sawl ohono chi fu yn gwrando, da iawn trwps, dyma gyfle i chi ailfyw'r profiad!

'Ma tipyn wedi'i sgwennu yn ddiweddar am yr artist o Philadelphia, Kurt Vile (nid i'w gymysgu efo Kurt Weil, y cyfansoddwr Amlaeneg!), ac mi wnes i chwarae'r trac agoriadol oddi ar ei record diweddara' - Smoke Rings For My Halo (Matador). Os wnewch chi ddychmygu cyfuniad o Richard Ashcroft a Tom Petty, a thaflu geiriau sinistr a hiraethog i fewn i'r bwndl, yna mi fydd gennych ryw syniad o beth yw arddull Kurt. Mi fues i hefyd yn chwarae traciau gan Cusan Tan, Taj Mahal, Galwad y Mynydd, Iwan Huws a Steve Eaves. Digon o sacsaffons a basau ddwbwl i greu 10 band jazz ; a digon o ganu gwlad i gynnal Tecsas am o leia' degawd arall. Dani'n gwbod sut ma'i gwneud hi yng Nghymru, s'dim dadlau am hynny!

Fy ngwestai ar y rhaglen oedd Jodie Marie, artist ifanc 19 oed o Narberth sydd newydd arwyddo i labl Decca. Bues i'n holi Jodie am y cymhariaethau sydd wedi cael eu gwneud rhyngddi hi a rhai o gantoresau clir-leisiog y Laurel Canyon (Carole King, Joni Mitchell ag ati) ac yn darganfod tipyn am ddylanwad chwaeth gerddorol ei thad arni. Ma' sengl Jodie, Single Blank Canvas, allan rwan i'w llarlwytho. Mwy o wybodaeth: www.jodiemarie.co.uk

Bu Al Lewis yn gofyn yn neis a fydden i'n fodlon chwarae ei hoff gan Bob Dylan iddo. Ac mi wnes i, yn ddigon bodlon! Mi chwaraeais hefyd drac sesiwn a recordiwyd yn arbennig gan Al ar gyfer Huw Stephens. A chofiwch, am ragor o wybodaeth ar holl sesiynau C2 yna porwch y wefan: ma 'na drysorau i'w canfod yma, coeliwch fi.

Cofiwch, mi fydda'i nol nos Fercher nesaf am 10-12. Ar C2. Beth am ymuno efo fi? Ma'n bosib i chi glywed rhywbeth i leddfu'r chwant!

Gwrandewch eto yma