Pregethu am Helyntion
Band Gwyliwch y Gofod diweddaraf C2 yw Helyntion Jos y Ficar - band ska-ffync cyffrous o ardal Porthmadog.
Yn dilyn y newyddion trist fod un o fandiau byw mwyaf poblogaidd Cymru, Derwyddon Dr Gonzo, wedi rhoi eu gitars (a'u dillad ffansi) yn yr atic, mae Helyntion Jos y Ficar yn fand ifanc all helpu i lenwi'r bwlch enfawr sydd wedi ei adael ar ôl yn dilyn ymddeolaid y Derwyddon.
Ska-ffync hwyliog a geiriau ffraeth a doniol - mae hwn yn siwr o blesio cynulleidfaoedd led-led Cymru, a fydd hi'n fawr o dro nes fydd pawb yn dechrau pregethu am Helyntion Jos y Ficar (sori, odd rhaid)!
Gallwch ddarganfod mwy am Helyntion Jos y Ficar ar eu tudalen nhw ar Facebook - a chofiwch fod manylion HOLL gyn-fandiau Gwyliwch y Gofod ar wefan C2.
Hwyl am y tro - dwi off i ddawnsio!
Rob.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.