« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2011

Categorïau:

Criw C2Criw C2|11:36, Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011

Roedd cyffro o fore tan nos (Dydd Iau, Ebrill 7) wrth i BBC Radio Cymru ddatgelu enillwyr Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2011 ar amrywiol raglenni'r orsaf drwy gydol y dydd.

Yn ogystal â datgelu enillwyr y gwahanol gategorïau, a benderfynir gan banel o arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth, darlledwyd sesiynau byw a chyfweliadau gan ddechrau gydag enillwyr cynta'r dydd sef Yr Ods, a enillodd wobr Band Gorau 2010 ar raglen Dafydd a Caryl.

Roedd Steve Eaves eisioes wedi ei gyhoeddi fel enillydd Cyfraniad Arbennig ar yr orsaf dydd Llun.

"Mae Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru yn uchafbwynt blynyddol yng nghalendr cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru," meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru a Theledu Cymraeg. "Mae'r gwobrau, sydd yn cael eu dewis gan gynrychiolwyr sy'n cynnwys labeli, hyrwyddwyr a threfnwyr gigs, yn ddathliad o'r holl gerddoriaeth sydd wedi cael ei gynhyrchu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Eleni roedd y Gwobrau yn ymestyn drwy gydol y dydd ar Radio Cymru gydag enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar raglenni Dafydd a Caryl, Nia a Geraint Lloyd a bu nifer o sesiynau byw gan wahanol fandiau hefyd.

"Yr wyf yn arbennig o falch fod Gwobr y Cyfraniad Arbennig wedi ei ennill eleni gan Steve Eaves. Mae ei gyfraniad i'r sîn roc yng Nghymru wedi bod yn amhrisiadwy ac mae yna barch mawr tuag ato."



Dyma restr enillwyr Gwobrau RAP BBC Radio Cymru 2011:

Cyfansoddwr y flwyddyn

Gareth Bonello

Can y flwyddyn

Jen Jeniro - Dolphin Pinc a Melyn

Artist Benywaidd y Flwyddyn

Cate Le Bon

Cynhyrchydd y Flwyddyn

Dave Wrench

Gwobr Siart C2 ( y grwp sydd wedi bod ar frig y siart amlaf )

Gwibdaith Hen Fran

Digwyddiad Byw y Flwyddyn

Gwyl Gardd Goll

Artist Gwrywaidd y Flwyddyn

Al Lewis

Sesiwn C2 y flwyddyn

Y Gwylanod

Grwp a ddaeth i amlygrwydd

Crash.Disco!

Band Byw y Flwyddyn

Y Niwl

Albwm y Flwyddyn

Y Niwl - Y Niwl

Band neu Artist y Flwyddyn

Yr Ods

Gwobr Cyfraniad Arbennig

Steve Eaves

Gallwch wrando ar sesiynau o'r noson ar wefan Gwobrau RAP 2011.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:05 ar 12 Ebrill 2011, Wil.ydw.i ysgrifennodd:

    Mae arna'i ofn nad oedd y 'cyffro' yn trosglwyddo ar y radio. Roedd pawb yn swnio fel bod nhw'n trio bod yn gyffrous, ond jest yn eitha bored. Dydi cael 5 o bobol mewn stiwdio yn mynd 'hwre' ddim yn gwneud awyrgylch o gyffro.