Roedd cyffro o fore tan nos (Dydd Iau, Ebrill 7) wrth i BBC Radio Cymru ddatgelu enillwyr Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2011 ar amrywiol raglenni'r orsaf drwy gydol y dydd.
Yn ogystal â datgelu enillwyr y gwahanol gategorïau, a benderfynir gan banel o arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth, darlledwyd sesiynau byw a chyfweliadau gan ddechrau gydag enillwyr cynta'r dydd sef Yr Ods, a enillodd wobr Band Gorau 2010 ar raglen Dafydd a Caryl.
Roedd Steve Eaves eisioes wedi ei gyhoeddi fel enillydd Cyfraniad Arbennig ar yr orsaf dydd Llun.
"Mae Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru yn uchafbwynt blynyddol yng nghalendr cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru," meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru a Theledu Cymraeg. "Mae'r gwobrau, sydd yn cael eu dewis gan gynrychiolwyr sy'n cynnwys labeli, hyrwyddwyr a threfnwyr gigs, yn ddathliad o'r holl gerddoriaeth sydd wedi cael ei gynhyrchu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Eleni roedd y Gwobrau yn ymestyn drwy gydol y dydd ar Radio Cymru gydag enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar raglenni Dafydd a Caryl, Nia a Geraint Lloyd a bu nifer o sesiynau byw gan wahanol fandiau hefyd.
"Yr wyf yn arbennig o falch fod Gwobr y Cyfraniad Arbennig wedi ei ennill eleni gan Steve Eaves. Mae ei gyfraniad i'r sîn roc yng Nghymru wedi bod yn amhrisiadwy ac mae yna barch mawr tuag ato."
Dyma restr enillwyr Gwobrau RAP BBC Radio Cymru 2011:
Cyfansoddwr y flwyddyn
Gareth Bonello
Can y flwyddyn
Jen Jeniro - Dolphin Pinc a Melyn
Artist Benywaidd y Flwyddyn
Cate Le Bon
Cynhyrchydd y Flwyddyn
Dave Wrench
Gwobr Siart C2 ( y grwp sydd wedi bod ar frig y siart amlaf )
Gwibdaith Hen Fran
Digwyddiad Byw y Flwyddyn
Gwyl Gardd Goll
Artist Gwrywaidd y Flwyddyn
Al Lewis
Sesiwn C2 y flwyddyn
Y Gwylanod
Grwp a ddaeth i amlygrwydd
Crash.Disco!
Band Byw y Flwyddyn
Y Niwl
Albwm y Flwyddyn
Y Niwl - Y Niwl
Band neu Artist y Flwyddyn
Yr Ods
Gwobr Cyfraniad Arbennig
Steve Eaves
Gallwch wrando ar sesiynau o'r noson ar wefan Gwobrau RAP 2011.