« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pencampwyr Pop - Y Preseli!

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|13:40, Dydd Gwener, 21 Ionawr 2011

Llongyfrachiade i Ysgol y Preseli am ennill y rownd gynta o Gwis Pop Dodd-Com neithiwr. Nethon nhw wynebi criw Ysgol Dyffryn Nantlle a oedd yn wrthwynebwyr cryf iawn, ond mi nath Sion - gyda help Gwilym, Andrew, Rhodri, Delyn, Bleddyn, Eurfyl a Ffion ar ei thrwmped, lwyddo curo Tomos, Caron, Dion, Connor a Gai Toms (ond ddim yn siwr os mai Y Gai Toms oedd e). Mi fydd Ysgol y Preseli yn wynebu Ysgol Maes Garmon, Wyddgrug mewn pythefnos - digon o amser i Ffion berffeithio ei ffanffer felly!

Magi x

O.N - er i griw Dyffryn Nantlle golli neithiwr, mi nethon nhw berfformio cân ar yr awyr ini, ac mi oedden nhw'n briliant! Enw'r band yw Dan Draed. Cofiwch yr enw - fydden nhw ar frig siart C2 cyn bo hir!



O.N.A - Steffan Dafydd o Breichiau Hir fydd 'da fi ar Dodd Com heno yn adolygu'r ffilm Kings Speech, gweini'r Tatws Poeth ac yn sgwrsio gyda Aled Haydn Jones. Gyda'n gilydd felly.. "Dwi'n nabod boi, dwi'n nabod boi or enw Iesu..."