Santes Dwynwen Hapus!
Reit de yn gynta ga'i ddymuno Santes Dwynwen hapus i chi gyd, a gobitho bo chi wedi cal y'ch sbwylo yn rhacs heddi. Sai di cal dim un carden na siocled na dim byd arall cofiwch - bww hww!
Ta beth, dwi yma yn barod i'ch diddanu (gobitho) rhwng 10 a 12 heno. Fy ngwestai arbennig i yw'r actor Rhys ap William, a ma siwr bod rhai ohonoch chi yn i gofio fe yn chware rhan Cai ar Pobol Y Cwm.
Wel mi fydd Rhys yma i weud wrtho ni be sy mlan da fe ar hyn o bryd ag wrth gwrs i fynd am dro ar Ifan yr Injan!
A ma Owain Llyr wedi ei eilyddio heno a'r super sub Rhydian Bowen Phillips fydd yma i drafod chwaraeon y penythnos. Felly edrych mlan yn fawr i gal cwmni Rhydian a Rhys.
Cofiwch wrando felly am 10 a sws fawr i chi gyd ;-) X

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.