« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Sesiwn Unnos - Y Polyroids

Categorïau:

Criw C2Criw C2|08:14, Dydd Mercher, 19 Ionawr 2011

Bore da bawb!

Wel, noson hynod lwyddianus arall... Neithiwr / bore 'ma rhwng 7pm a 7am, fe lwyddodd Osian a Griff o'r Ods, Gerallt Ruggiero/Plyci, Carwyn Jones/Kim De Bills, a Gwion Llewellyn o'r Race Horses - Y Polyroids - i gynhyrchu 6 track newydd sbon. Ma na rai gwych ar yr EP gwbl newydd yma - ond plis gwrandewch ar "Drysau", sy'n drac anhygoel o brydferth.

Mae'r sesiwn yn fama, ynghyd a fideo o un gan, cwpl o gyfwelaida fideo, llyniau, a gwaith celf i gyd-fynd hefo'r EP.

Nos da/bore da

Gareth a Dwynwen

Cynhyrchwyr, Sesiwn Unnos

x