« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Mynd o Steddfod i Steddfod

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|22:18, Dydd Iau, 29 Gorffennaf 2010

Wel mae hi bron yn amser yr Eisteddfod. Cyffrous ynde?

Fi erioed wedi colli Eisteddfod Genedlaethol, a fi'n edrych mlan i weld be sy'n digwydd yng Nglyn Ebwy wthnos nesa. Fyddai'n fyw ar C2 nos Lun, Mawrth, Iau a Gwener o Maes B ar C2 gyda hynt a helynt be sy'n digwydd yn y Steddfod.

Fi'n edrych mlaen i brynu'r CDs newydd sy' allan a phrynu llyfr fyddai siwr o fod byth yn darllen.

Fi'n 29 nawr, a llynedd ro'n i'n teimlo'n hen yn Maes B. Fi flwyddyn yn hyn eleni, felly fydd hi'n waeth siwr o fod. Ond fi'n edrych mlaen i weld rhai o'r bandiau yn chware. Fi'n colli gig olaf Y Promatics; pob lwc ir band a diolch am y gerddoriaeth dda. Roedd gweld nhw yn Maes B llynedd yn bleser pur. Fi'n edrych mlaen i glywed be mae nhw'n neud yn y dyfodol.

Gobeithio eich gweld chi yng Nglyn Ebwy os chi yn y Steddfod.

Huw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:56 ar 30 Gorffennaf 2010, SMDC ysgrifennodd:

    Fi'n 33 felly s'dim rhyfedd mod i'n teimlo fel hen famgu jyst wrth gerdded heibio Maes B