Joio yng Nglyn Ebwy
Roedd nos Lun a nos Fawrth yn Maes B yn lot o hwyl - llongyfarchiade mawr i'r bandiau ag artistiaid nath gystadlu yn Brwydr y Bandiau!
Crash!Disco nath ennill y wobr fawr; mil o bunnoedd, sesiwn C2 a gig nos Sadwrn ym Maes B. Maeln braf iawn gweld fod Gethin Evans a Bethan Elfyn y beirniaid wedi mynd am artist sy;n gwthio pethe mlaen - mae cerddoriaeth Gruff Crash!Disco wedi bod yn chwa enfawr o awyr iach yn ddiweddar, a cyffrous ydi gweld e'n chwarae gyda band nawr yn ychwanegu at ei swn electro. Cyffrous!
Ac roedd sesiynnau Colorama, Ginge a Cello Boy, Steffan Huw a Ryan Kift yn arbennig iawn. Os chi heb weld y fideos eto, mae nhw fan hyn i chi fwynhau.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.