Unnos6: Hunanladdiad - Mr Huw (Evans)
Agorwch y ffwrn, trowch y nwy i fyny, a choginiwch eich pennau - mae cyfres Sesiwn Unnos ar fin dod i ben, ond fel ma nhw'n deud yn iaith y diafol, what a way to go...
Race Horses sydd yma hefo ni heno a ma Mei di sicrhau fi'n barod eu bod nhw'n mynd i fod o 'ma erbyn 3am hefo llefydd 4, 3, 2 ac 1 yn siart C2 dan eu gwregys pantalonau.
Newydd fod yn pipo mewn i'r stiwdio a 'di sylwi fod Alun Gaffey Gafferton ar y dryms, Gwion ar y gitâr a Mei a Dyl ar eu hofferynnau naturiol (ŵ ŷ misys) - dwi'n meddwl fod hyn o bosib yn creu rhyw fath o gywasgydd dychmygol sy'n achosi i'r sudd creadigol dasgu o'u ymenyddion dros eu cyrff sychedig.
Neu ma nhw just yn cal jam, dwi'm yn siŵr.
Dewinol.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.