Unnos6: Dewch At Eich Gilydd
Cofiwch am 11pm (gobeithio) mi fydda ni'n cyhoeddi mp3 i chi fedru ei lawrlwytho i ail-gymysgu un o draciau Unnos Race Horses. Mi fydda ni wedyn yn cyhoeddi rhai o'r remixes yna ar wefan C2, ac o bosib yn cynnwys un ar raglen goreuon Sesiwn Unnos sy'n mynd allan ar Chwefror 24ain.
Mae hi bellach yn 9.44pm, ac mae'r Race Horses wedi bod yma ers ryw ddwyawr. Mae'n swnio fel bod y gerddoriaeth ar gyfer y gân gyntaf bron wedi ei sgwennu, ond does na ddim son o gwbl am eiriau eto.
Mae'r dyn sydd am wneud y clawr newydd gyrraedd - Gaz Jones. Mi fydd o'n gwneud collage, felly mae o wedi dod â tua 10 bocs mawr o "cuttings" hefo fo, wedi eu trefnu yn ôl gwahanol liwiau. Difyr
Hwyl am y tro
Gar
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
Bydd y drym trac ar gael hefyd?
nai weld be fedra ni ei wneud!