« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos6: Dechrau'r Diwedd

Categorïau:

Gareth Iwan|19:01, Dydd Mawrth, 16 Chwefror 2010

Wel, da ni bron iawn wedi dod i ddiwedd taith Unnos dan olau lleuad. Heno ydy'r rhaglen olaf yn y gyfres, ond mae'n bosib mai hon fydd y mwyaf difyr. Race Horses fydd yn ceisio cyfansoddi, recordio a rhyddhau EP mewn noson, ond mae 'na gwpl o elfennau difyr gwahanol.

Tra mae'r Race Horses yn recordio eu caneuon, mi fydd Cian o'r Super Furry Animals yn creu remics o'r sesiwn. Mi fydda i'n gyrru ffeils mp3 o leisiau a cherddoriaeth y Race Horses i Cian, ac mi fydd o'n creu darn o gerddoriaeth ar gyfer yr EP.

Mi yda ni hefyd am i CHI gyfrannu i'r EP. Am tua 11pm (gawn ni weld sut aiff pethau) mi fydda ni'n rhoi darn o gân gyntaf y Race Horses yma ar flog C2, ac yn gofyn i chi ei ail-gymysgu a'i yrru i ni.

Felly os da chi awydd ail-gymysgu cân newydd sbon gan Race Horses, a bod yn rhan o'r Sesiwn Unnos olaf, dewch draw i wefan C2 yn gyson heno!

Diolch

Gar