Awydd cyfrannu "remix" i brosiect Unnos?
Nos fory pan fydda ni yma yn recordio y rhaglen olaf yn y gyfres Sesiwn Unnos ,'da ni am drio rhywbeth go wahanol. Mi yda ni ishio chi gyfrannu i'r sesiwn drwy gyfrannu remix o un o'r caneuon. Mi wnai esbonio mwy... Y Racehorses fydd yn recordio'r sesiwn, a dwi'n gobeithio y bydda nhw wedi gorffen y gân gyntaf erbyn tua 11pm nos fory.
Be' da ni am ei wneud wedyn ydy rhoi darnau llais neu gitar y gân ar safle we C2 i chi fedru eu lawrlwytho. Y gobaith wedyn ydy y byddwch chi yn ail-gymysgu'r track, ac y bydd rhai o'r ail-gymysgiadau yn cael eu rhoi ar safle we Unnos C2, ac yn cael eu chawrae ar raglen "Goreuon Unnos" wythnos nesa ar C2.
Felly os da chi awydd ail-gymysgu can newydd sbon gan Racehorses, dewch draw i safle we C2 nos fory am 11pm.
Cofion
Gar
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
Felly, mond lawr lwytho vocals 'Y Racehorses' fydd rhaid i ni wneud am 11:00 nos fory. Wedyn i ni creu can yn defnyddio yr vocals yna yn ein can ni?
Erbyn pa bryd fydd isho gyrru yr can yn nol?
Gobeithio Clwad Gena Chi'n Fuan
ia, yn union! Yn ddelfrydol, byddai'n wych cael y "remix" erbyn 8am y bore wedyn (bore Mercher) gan mai dyna ydy syniad Sesiwn Unnos - OND da ni'n sylweddoli na fydd hynny'n bosib i rai pobol felly da ni am drio bod mor hyblyg ac y gallwn ni hefo hynny...
Wicked. Edrych ymlaen yn barod!
Ideal! Mi fyddai yn cymerhyd rhan ag yn gobeithio cael rhiwbeth i chi erbyn 8am, gan fy mod yn gweithio am 8.30!!
Fysa yn bosib i chi danfod yr link i lle fydd yr can i ni lawr lwytho?
dwi ddim yn meddwl fod y darn yna o'r wefan ar gael eto - tyrd draw i wefan C2 am 11pm ac fe ddylai fod yn weddol amlwg. Os dio ddim, ebostia c2@bbc.co.uk
A diolch yn fawr am ddangos diddordeb!
Cofion
Gar