Unnos5: Rhyddhau EP "Y Gwylanod"

Mae Gareth, Sion, Gwyneth, Aled a Pete ar eu ffordd i'w gwlâu, ond allwch chi wrando ar draciau hyfryd eu Sesiwn Unnos ar wefan C2 nawr - ychydig yn gynt nag arfer! Mae 'na hefyd glawr hyfryd gan Huw Evans ei hun.
Mae'r Gwylanod - fel hoffen nhw gael eu hadnabod - wedi cynhyrchu EP "cysyniadol" y tro yma. Dyma'r traciau:
- Trosedd
- Dianc
- Cosb
- O'r Gell
Beth y'ch feddwl o rhiena felly?
Bydd Huw nôl heno am 10 ar C2 gyda rhaglen awr yn cofnodi anturiaethau'r noson. Nos da!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
Gwych. Y sesiwn ora' o bellffordd. Fydd/ydi hi'n bosib lawrlwytho y caneoun?
Falch bod ti wedi mwynhau'r sesiwn Osian. Yn anffodus allwn ni ddim cynnig y caneuon i'w lawrlwytho (os nad yw'r artistiaid yn penderfynu rhyddhau'r caneuon eu hunain) ond fyddan nhw ar gael ar wefan C2 pryd bynnag ti eisiau'u clywed nhw!