Rhodri Davies - athrylith
Helo
Mae hi'n 10.30pm, ac ma petha i weld yn mynd yn dda. Ma Mei Mac wrthi'n barddoni, mae Ynyr wedi dechrau recordio traciau gitar hyfryd fel sail y gân gyntaf, ond dwi'n credu mai be sy di'n taro ni i gyd hyd yma ydy FAINT o athrylith ydy Rhodri Davies. Dyn addfwyn iawn, ond mae o yn wirioneddol anhygoel ar y delyn. Plis plis dewch draw i'r wefan bore fory i glywed y traciau - fe alle nhw fod yn wych. Joio heno - awyrgylch hamddenol braf, pawb yn andros o glen ac i weld yn mwynhau.
Gar
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
Ydy rhodri davies yn single??!!