« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pync Am Byth

Categorïau:

Gareth Iwan|22:52, Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2010

Mae hi bron yn 11pm wrth i ni recordio 4ydd rhaglen Unnos, ac ma hi'n reit dawel ar hyn o bryd (mae Rhodri wrthi'n rhoi haenau o delyn ar y trac cyntaf) felly cyfle bach sydyn i sôn am noson sy'n digwydd yn Amgueddfa Gwynedd, Bangor am 7pm nos Iau. Fel rhan o arddangosfa gelf Pync Am Byth, mi fydd Lisa Gwilym yn holi Rhys Harris (Trwynau Coch), Dic Ben (The Peth, Elfyn Presli), Steffam Cravos (Tystion) ac Efa Thomas o'r Stilletoes. Mi ddyla hi fod yn noson ddifyr, dewch draw. (Mynediad am ddim).

Cofion

Gar