« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos4: Huw Evans

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|21:40, Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2010

Mae rhaglen Unnos wythnos yma fel Cerberus mawr blin sy'n eistedd ar gader anferthol yn byta telynnau. Ynyr Brigyn, Mei Mac a Rhodri Davies yw aml-bennau'r bwysfil gwyllt, un o'r cyfuniadau mwyaf annisgwyl yn y gyfres hyd yn hyn. Bardd, cantwr pop a telynor/artist fluxus sy'n mwynhau rhoid eu offeryn ar dan.

Ma 'na 3 testyn gwahanol wythnos yma, un i bob cân, - dyma'r rhai ma nhw 'di ddewis...

1. Ffilm

2. Darlun

3. Dinistrio

Sgen i ddim syniad sut ma'r holl beth yn mynd i swnio, ond dyna holl bwynt y gyfres mwn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:40 ar 2 Chwefror 2010, Malwen ysgrifennodd:

    Ble ma'r barf wedi mynd Rhods?

  • 2. Am 23:03 ar 2 Chwefror 2010, Carolina Eztreverez ysgrifennodd:

    Rwyf yn dysgu cymraeg a rwyf yn hoffi raglen radio ti Huw yn fawr iawn, yn especiall dy photo ar y wefan ;) A rydyt yn dod i Gaerdydd ar rhyw adeg yn y dyfodol mawr?