Jess
Ar ôl penwythnos hir gwyl y banc, nes i gael newyddion cyffrous iawn neithiwr gan dim cynhyrchu C2. Mi fydd un o fy hoff fandiau yn recordio sesiwn newydd sbon ar ein cyfer yn ystod yr wythnosau nesaf. Mi oedd Jess yn un o'r bandiau Cymraeg pwysicaf ar ddechrau'r nawdegau ac rwy'n falch iawn y bydd eu sesiwn C2 newydd nhw yn cael ei ddarlledu ar fy rhaglen i yn ystod mis Mehefin - c'mon! Dwi'n credu taw hwn fydd y deunydd newydd cyntaf gan y band ers dechrau'r nawdegau felly cofiwch wrando mas amdano.
Ma Jess hefyd yn cael y catsuits allan o'r cwpwrdd ar gyfer cwpwl o gigs yn y mis nesaf - yng Ngwyl Bro Dinefwr a Gwyl Bedroc. Odd hi'n braf croesawi Jamie Bevan (sydd hefyd yn un o aelodau y Beti Galws ac yn gyn aelod o Enaid Coll) un o drefnwyr gwyl Bedroc i'r stiwdio neithiwr i sôn ychydig mwy am y line-up. Ma'r wyl wych yma yn digwydd am yr ail dro yn unig eleni ar benwythnos y 19eg - 21ain o Fehefin ym Meddllwynog ac ma'r tocynnau i nos wener a nos Sadwrn wedi gwerthu mas yn barod! Ma'r line-up yn cynnwys rhai o fawrion y byd cerddorol Cymraeg fel Jess, Meic Stevens, Chiz a Tebot Piws yn ogystal a rhai o'r bandiau sydd wedi dod i amlygrydd yn ddiweddar fel y Y Bandana a Just Like Frank. Ma mwy o wybodaeth ar wefan

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
WAAAAA! Jess! Diolch C2!