Hwyl yr Eurovision
Dwi wedi bod yn ffan o Eurovision ers oeddwn yn blentyn. Rwyn cofio pan oedd y teulu cyfan yn ein ty ym Mlaenau Ffestiniog yn cael parti i ddathlu'r holl gerddoriaeth. Roeddem yn gwneud tabl, a marcio'r caneon allan o ddeg - yna roedd Mam yn gadael i ni ffonio i bleidleisio dros ein hoff gân. Sad! Dwi'n gwybod!
Ond, dros y blynyddoedd diwethaf mi ddechreuais golli diodderdeb oherwydd bod gwledydd yn pleidleisio yn wleidyddol ac i'w cymdogion yn lle I'r gân orau. Ond, fe wnaethant newid y fformat blwyddyn yma, lle roedd 50% o'r pleidlais yn cael ei benderfynnu gan banel o gerddorion proffesiynol. Wel, am gystadleuaeth wych oedd hi. Roedd y safon yn arbennig, wel, pob un oni bai am yr Almaen. Cytunais mai Norwy oedd y wlad gyda'r gân orau - roedd hi'n wych, er roeddwn yn ffan o Portugal hefyd, a 15fed oedd eu safle nhw. Ond, roedd y sioe yn gyfan gwbl yn arbennig. Cafodd ei chynnal yn Rwsia, a roedd llawer o ddawnswyr ac actorion o'r syrcas yn perfformio rhwng y caneuon. Roeddynt yn fantastig!
Hwyl,
Glyn.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.