Golwg 360
Mae gwefan newydd Golwg wedi lansio heddiw, ac mae na adran "pop". Mi oeddwn i mewn cyfarfod Sefydliad Cerddoriaeth Cymreig yn ddiweddar, ac mi oedd Barry Thomas yr is-olygydd (sori os dwi di cael dy deitl di'n anghywir Barry) yn son am ei gynlluniau i greu is-wefanau i fandiau Cymraeg fel rhan o'r prosiect - lle i fandiau gael hysbysebu gigs, a gwerthu CDs. Felly os da chi mewn band, ac hefo diddordeb - ebostiwch nhw

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
pam na rowch chi'r ddolen yn sych i'r dudalen Gymraeg yn hytrach na Saesneg?
bore da!
diolch am y sylw. Fe wnes i drio rhoi cyfeiriad i safle we Gymraeg y Sefydliad, ond bob tro ro'n i'n mynd i'r safle Gymraeg, yr un oedd y cyfeiriad gwe. Fedri di awgrymu cyfeiriad i mi ei roi yn ei le?
diolch am y sylw.
Yn bersonol fydda i'n gwneud mwy efo'r dudalen newydd sgyno ni yn y cylchgrawn Golwg - Y Babell Roc - nag efo'r wefan.
Ond fel ti'n deud, mi fydd cyfle i fandiau greu tudalennau ar y wefan newydd - Golwg360 - a lincs i'w caneuon ar y we, cyfle i brynu albyms ayb.
Gobeithio fydd o'n denu mwy i wrando ar fiwsig Cymraeg ar C2 ac mae'n gigiau byw.
Mwy o ddylunio gwefannau gwael!
Tria'r canlynol fel dolen:
https://www.welshmusicfoundation.com/?language=welsh&page=/
mi ddyle'r linc cywir fod yna rwan - diolch am y cymorth!
Pam fod y BBC yn rhoi cymaint o sylw i Golwg360? Mae'r safle yn warthus - y syniad yn dda, ond mae'r dechnoleg a'r safle ei hun yn uffernol!
Mae'r ffont yn amrywio ac yn horrible, ac mae adrannau o'r safle yn diflanu fel mae nhw eisiau.
Cymaint o addewid, methu delifro, a lot gormod o ffys o safle gwael.