Tiwns!
Roedd seshwn newydd Hanner Pei ar y rhaglen nos Lun. Cliciwch fan hyn os naethoch chi ddim ei chlywed hi.
Fi'n hynod o hoff o'r trac 'Does Dim Gair Cymraeg am Random' - syniad da oedd cael Ed Holden mewn i rapio; raps random iawn!
Fydd Bandit nol ar y teledu wthnos nesa; S4C nos Iau am 10.45pm; Eitha Tal Ffranco, Cian o SFA, Derwyddon Dr Gonzo, Gwibdaith Hen Fran a lot mwy ar y rhaglen. A'r sgrin mwya fi erioed wedi gweld hefyd.
Di bod yn mynhau tiwns newydd Phoenix o Baris, Passion Pit a The Phantom Band o'r Alban yn ddiweddar. Mae remics Cyrion o Hufen Ia gan Clinigol yn un gwych hefyd, a fi'n hoffi tiwns Cloud Formations o Lanberis, cyn artist ar Gwyliwch y Gofod.
Mwynhewch y Pasg!
Huw

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.