« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Gwobrau Roc a Phop 2009 - heno, yn fyw, ar y we ac ar eich weiarles

Criw C2|16:27, Dydd Gwener, 3 Ebrill 2009

Mae Magi Dodd, Hefin Thomas, Huw Evans a Dyl Mei wrthi'n paratoi ar gyfer noson fawr Gwobrau RAP heno, pan fyddan nhw'n cyhoeddi'r enillwyr mewn rhaglenni arbennig ar Radio Cymru ac ar wefan C2 rhwng 8 ac 11pm.

Ymuna â Magi a Hefin ar y radio yn y dulliau arferol, neu fe elli di wylio'r cyfan yn fyw ar y we, gyda sylwebaeth ychwanegol gan Huw a Dyl. Bydd y linc i'r ffrwd fideo yn cael ei bostio yma tua 7.45pm.

Yn y cyfamser, cymer olwg ar sgwrs fideo gyda Heather Jones, enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig eleni, a fideo 'Un Rhosyn Coch' - un o'r traciau sesiwn fydd yn cael eu chwarae yn y rhaglen. Bydd hefyd traciau newydd sbon gan Derwyddon Dr Gonzo, a sesiwn newydd gan Yr Ods - clicia isod i glywed un ohonyn nhw nawr!

Yr Ods - Cariad

I baratoi am y noson, dyma'r rhestr enwebiadau llawn - beth yw dy farn di, a phwy ti'n meddwl sy'n haeddu ennill beth? Postia dy sylwadau ar y blog, neu ebostia c2@bbc.co.uk

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:25 ar 3 Ebrill 2009, Chris ysgrifennodd:

    Hoffi'r sylwadau hyd yn hyn!

    Meddwl oni, er mai'r gwobrau Roc a Phop ydi hein faint o debygolnydi hi i ni weld categori ar gyfer rap neu hip - hop yn y dyfodol?

    Lot iw henwebu: Mc Mabon, Cofi Bach, Dybl L, a Genod Droog ;) ymysg eraill!