Hanner Cant yn Efrog Newydd
Helo,
Fi nol o wyl South by South West yn Austin, Texas. Hon oedd y bedwaredd tro i fi fynd yne, i weld llwythi o fandie newydd yn chware.
Nes i gwrdd a Duffy yn Austin llynedd am y tro cyntaf, lle roedd hi'n gigio cyn creu argraff ar America. Eleni roedd Proclaimers, Metallica a Quincy Jones ymysg yr artistiaid mwy oedd yn chware yn yr wyl sy'n dennu miloedd o bobl a bandie bob blwyddyn (mae Austin yn gneud ryw £150 miliwn diolch i SXSW).
Ond do'n i ddim yne i weld enwau cyfarwydd. Holl bwynt yr wyl i fi ydi gweld bandiau fydd yn creu argraff dros y flwyddyn nesa. Yr uchafbwyntiau?
Local Natives
Wax Fang
Low Anthem
Hip Hop; Asher Roth, Janelle Monae
Son am hip hop, nes i gwrdd a 50 Cent, neu Fiddy yn Efrog Newydd. Roedd e'n fawr a cryf a fyswn i ddim yn meiddio mesio gyda fe. Dim hyd yn oed gofyn iddo fe os oedd e am neud Sesiwn C2.
'Nai'ch weld chi yn y clwb, gyda potel llawn o bwd, ma da ti be fi angen ayb ayb.'
X

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.