« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Gwobrau RAP 2009

Categorïau:

Gareth Iwan|11:07, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2009

Ymddiheuriadau am y ddiffyg blogio yn ddiweddar - dwi wedi bod yn brysur braidd yn helpu i drefnu rhaglen Gwobrau RAP 2009. Does dim noson/seremoni wobrwyo eleni, ond mae ganddom ni dair awr o raglen arbennig nos Wener rhwng 8pm ac 11pm. Yn amlwg fe fydda ni'n cyhoeddi'r ennillwyr yn yr 13 categori, ond hefyd fe fydd na sesiynau newydd sbon, a thraciau newydd exclusive gan un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru.

Nos Wener dwytha fe ges i'r fraint o recordio sesiwn acwstic o ganeuon newydd sbon hefo Heather Jones, sydd wedi ennill y Wobr am Gyfraniad Arbennig eleni. Roedde ni i gyd mor falch dros Heather - yn amlwg mae ganddi lais hyfryd a chwbl unigryw, ond mae hi hefyd yn un o'r artistiaid mwyaf diymhongar dwi'n ei adnabod. Fe fydd 'na fideo o gyfweliad Lisa Gwilym, a fideo o'r sesiwn, ar wefan C2 yn fuan.

Rhywbeth arall cyffrous da ni'n drefnu ar gyfer RAP eleni ydy'r rhaglen sylwebu ar y we. Tra bydd Magi a Hefin yn cyflwyno'r brif raglen, fe fydd Huw Evans a Dyl Mei yn rhoi eu barn ar yr artistiaid sy'n ennill. Fe fydd hi'n ddifyr iawn clywed eu sylwadau.

Fe fysai hefyd yn neis cael eich barn chi ar y noson - ebostiwch ni i adael i ni wybod be da chi'n ei feddwl o'r dewisiadau mae'r panel wedi ei wneud

Cofion

Gar