« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Eira Eira ym mhobman...

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|09:49, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009

Helo. Gan obeithio eich bod wedi cael cysgod o'r eira. Mae Caerdydd yn llawer pertach pan mae eira drosto i gyd. Nath yr eira neud fi feddwl am;



Yr Eira Mawr - albym hyfryd Gai Toms gyda'r clawr gwych yne o Gai gyda'i wyneb wedi ei orchuddio mewn eira.

Gwaed ar yr Eira Gwyn - Can Tecwyn Ifan, y gwr gyda mwstash gwych nes i weld ar nid yn unig Nodyn ond hefyd Dechrau Canu Dechrau Canoml yn ddiweddar. Mae Alun Tan Lan yn neud fersiwn hyfryd o hon hefyd.

Cacan Wy Experience - "Pan ti'n ****o'n yr eira, neud o'n wyrdd'. Un o'r llinellau yne sy'n sticio yn eich meddwl.

Swci Boscawen - Eira Gwyn.



Nes i feddwl am rhein i gyd, ac am Snow Patrol. Ac am bobl o'r enw Eira. Enw da.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:36 ar 3 Chwefror 2009, Rob ysgrifennodd:

    Du ydi'r Eira gan Gwyneth Glyn, wrth gwrs!

    Rob