Ar y ffordd..
Fedrai dal ddim credu fod gen i drwydded gyrru! Daeth drwy'r post y bore ma', cardyn pinc gyda llun digon 'minging' ohonaf ar y blaen.
Dwi yn yrrwr! Mae'n swnio fel joc yn tydi! Rwy'n edrych ymlaen i yrru car, 2 sedd, du, sgleiniog, heb dô i lawr strydoedd Caerdydd gyda fy sbectol haul amdanaf. Ia, dyna yw'r freuddwyd. Ond, y gwir amdani, mi fydd gen i gar rhydlyd wedi croncio allan efo rhes o geir tu ôl i mi yn hootian ym Mlaenau Ffestiniog! Dwi dal heb brynu car eto oherwydd does dim angen un tra dwi yn y coleg, mae popeth yn agos i'w gilydd yn y ddinas sy'n gwneud hi'n hawdd i fynd o un lle i'r llall.
Ond, mae'r pwysau wedi cael ei dynnu oddi ar fy ysgwyddau o orfod yrru o amgylch y ddinas gyda 'L' mawr coch ar flaen fy nghar. Felly, gwyliwch allan Gaerdydd, fydda i ar y ffordd!
Glyn xx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.