Dan! Dan! Dan!
Neithiwr ar C2 roedd e'n hyfryd cael cwmni Dan Griffiths o'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Dan sy'n edrych ar ôl yr archif sgrin a sain yn Aber, lle ma unrhyw ffilm neu ddarn o gerddoriaeth yn cael eu gadw'n saff. Dychmygwch; pob record, bob tap, bob darn o feinyl ( o silyndrs i albyms diweddar), mini disc, dat a flexidisc. Nes i ofyn i Dan ddod mlaen a dewis rhai o'i ffefrynnau a rhai prin. Roedd y dewis yn wych; gwrandewch eto
yma
Heno bydd Dan Amor yn westai. Fyddai'n darlledu sesiwn newydd sbon gan Dan, sy'n feistr ar ganeuon twym-galon, onest a hyfryd. Ar ol rhyddhau 2 albym ac yn gweithio ar yr un nesa, mae sesiwn heno yn un hynod o neis.
Ta ra, ofod-garwyr
X

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.