Rhaglen Steffan Cravos heno
Helo bobol
Os da chi'n licio'ch hip-hop, bydd na wledd ar ein cyfer heno am 10pm - Steffan Cravos yn cyflwyno awr o rap a beat-boxio gwych. Ma na dracia gan artistiaid cyfarwydd iawn i wrandawyr C2 fel Genod Droog a Cofi Bach a Tew Shady, a rhai fydd efallai'n newydd i chi (roedde nhw i mi beth bynnag) fel Saipan Supa Crew a Razhel.
Mae'r rhaglen wedi ei recordio'n barod, achos heno dwi'n mynd draw i Bwllheli ar gyfer gig Gai Toms. Da ni'n recorido'r noson gyfa', a bydd y gig i'w glywed ar C2 yn fuan.
Cofion
Gar
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.