Bywyd yn Barti!
Hi! Dim cysgu, dim ond partio! Dyna oll dwi wedi ei wneud wythnos yma. Mae fy iau yn sgrechian, Na Glyn dim mwy! Hahaha! Dyna yw bywyd coleg, mae o'n brilliant. Er hynny, fe wnes gyflwyniad Sbaeneg 8 munud, ar bwysigrwydd dwyieithrwydd yn y byd gwaith. Fe wnaeth y iaith lifo oddi ar fy nhafod, er weithiau roeddwn yn dweud pethau nad oedd yn gwneud synnwyr. Ond, dywedodd yr athrawes 'Muy Bien' ar y diwedd, felly, popeth yn iawn.
Ond, mae'r holl bartio wedi cael effaith ar fy ngradd yn y Gymraeg.
Rwyf wedi methu y dyddiad cau y gwaith cwrs, a does gen i dal ddim traethawd i'w roi fewn! Ugh!
Gormod o waith. Felly, Glyn Wise - Y Swot. Dyna fydd fy enw wythnos nesaf, cysgu a gwaith cartref dyna yw'r plan ar gyfer wythnos nesaf! Hwyl am y tro,
Glyn xx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.