« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Milch, Milch, Limonade. Um die Ecke Schokolade

Categorïau:

Daniel Glyn|09:23, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

Helo i fy ffrindiau Almaeneg. Mae wedi bod yn gyfnod prysur, wrth i mi wneud fy ngorau glas i osgoi y rygbi. Am unwaith yn fy mywyd, fi oedd y Cymro mwya rhamantus ar ddydd San Ffolant, achos i mi fynd i ffwrdd am benwythnos gyda'r missus, a chadw'n glir o'r rygbi. Nos Wener dwetha, teithiais yn ôl yn y car o "Uned 5" yn ystod gêm Cymru a Ffrainc. Diolch byth am y diffyg signal radio ar yr A470 dduda'i! Ymunais â grwp 'I hate Welsh rugby' ar Facebook, cyn i mi sylweddoli ei fod wedi ei greu gan ffans chwerw peldroed Cymraeg, a ma rheina'n medru bod yn waeth na ffans rygbi. Felly ymunwch â fi bob nos Fercher, lle fyddai ddim yn trafod rygbi o gwbl. Nos Fercher yma, fydd y gitarydd a'r 'living legend' Myfyr Isaac yn y stiwdio, yn trafod ei yrfa yn y ffurfafen sioe fusnesol, gan gynnwys fod yn gyfarwyddwyr cerddorol i Dewi Pws. A wythnos nesa? Wel, dyma ichi gliw. Yr Arglwydd yw fy mugail....