Penblwyddi!
Ma penblwyddi yn ace nag yn nhw? Fi erioed wedi deall pobol sy ddim yn mwynhau eu diwrnodau mawr. Dyna'r un diwrnod yn eich bywyd (ar wahan i'ch priodas a'ch angladd) fod pawb yn gorfod bod yn neis i chi.
Ma fy mhenblwydd i ym mis Mawrth (yr 8fed os ych chi am nodi'r dyddiad yn eich dyddiaduron) ond ma Awst 16eg yn ddiwrnod penbwlydd i Alun a hefyd i Ella fy nith. Ddwy-waith y rheswm i ddathlu!
Gath Ella ac Alun ddiwrnod lyfli - ond fi'n siwr ges i ddiwrnod gwell na'r ddau ohonyn nhw! Ma just bod gyda'ch teulu a'ch ffrindiau yn rhoi popeth mewn cyd-destun. Falle'ch bod chi yn sgint, neu yn cael diwrnod gwael yn yr ysgol neu waith neu falle'ch bo chi'n meddwl bo gyda chi fat bum (fel fi), ond pan y'ch chi'n treulio amser gyda phobol chi'n caru - a sy'n caru chi - ma popeth yn ok.
Felly fy neges-ette i chi gyd yr wythnos hon yw gnewch y gore o'ch teulu a'ch ffrindiau achos rili - dim ond nhw sy'n bwysig. Fi'n teimlo'n reit emosiynol nawr felly fi off i dreulio noson gyda fy ffrindiau mewn bwyty lawr y bae! Fat-bum, shmat-bum - mwy o bopadoms plis!
M xxx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.