Merched y Brawd Mawr
Ges i wythnos brysur iawn - yn gynta fues i'n ymarfer efo'r colur ar gyfer y gyfres "Briodas Fawr" ar S4C a dwi'n reit siwr fydd y briodferch ddim yn edrych fel panto dame ar ôl i mi orffen efo'i!
Nos Iau mi fues i lawr i Lunden i fynd am neit owt efo Kinga, sef un o gystadleuwyr y Brawd Mawr nôl yn 2005. Wel, sôn am hwyl. Ma Kinga yn byw stepen drws i ffwrdd o dy'r Brawd Mawr, felly fuo ni lawr fa'no i weld be oedd be, a tra oedden ni yna, gafo ni ein gwahodd i fod yn gynulleidfa "Big Brother's Big Mouth" a fues i'n son am y profiad o neud Big Brother llynedd.
Pnawn Sadwrn ar ôl y sioe, mi fues i'n lwcus iawn i gael tocyn i gem rygbi gyfeillgar Cymru yn erbyn Ariannin. Ma'r awyrgylch yn y stadiwm yn drydanol a ma sefyll a canu'r anthem yna yn rhoi goosebumps i fi......a mi nath Cymru ennill 'fyd!!
Nos Sadwrn, mi ddaeth Emily a Laura o'r gyfres eleni i lawr i Gaerdydd am noson allan. Mae noson rygbi yng Nghaerdydd wastad yn noson dda a dwi'n meddwl fod Emily wedi cael agoriad llygad go iawn!
Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.