« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pete pwy?!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 19 Mai 2007

Fel nes i sôn wythnos diwethaf, mi ddaeth Rich o Gola Ola a Siôn ei ffrind draw i aros efo fi am y penwythnos. Syth ar ôl y rhaglen mi athon ni i dre i wneud ychydig o siopa a wedyn allan am y noson. Gafon ni amser da, doedden ni ddim adre yn y fflat tan 4 o'r gloch y bore, ar ôl treulio rhanfwyaf y noson yn yr ardal VIP yn Tiger Tiger!

Gan fod Big Brother 8 ar fin cychwyn, wythnos yma dwi di cael cynnig lot o waith gan gylchgronnau a rhaglenni amrywiol yn gofyn i fi roi fy marn ar y 'housemates' newydd. Dwi methu aros i'r gyfres newydd gychwyn, ond mi fydd o'n od iawn gweld pobl eraill yn byw yn fy nhy i!!

Sôn am y ty, ar ôl C2 nos Fercher, mi es i draw i Abertawe i weld Pete. Rhagofn bo chi ddim yn gwybod pwy di Pete, wel Pete wnaeth ennill BB y llynedd, pan nes i ddod yn ail!

Ar ôl cyrraedd y Clwb yn Abertawe, mi wnaeth y bouncers ddweud wrthai fod Pete dal yn y gwesty, felly mi es i draw i'w weld o cyn y sioe. I fod yn onest wnes i ddim ei adnabod o, mi oedd o ei wallt o wedi tyfu'n hir, a mi oedd o wedi ei liwio fo yn ddu ac yn goch!

Mi gafon ni fynd draw i'r adral VIP yn y Clwb, cyn i Pete a'r band fynd ar y llwyfan! Doedd yna ddim llawer o bobl wedi dod i'r Clwb i weld y band. Mi oedd y band yn perfformio cerddoriaeth punk, ac yn gwneud ambell i cover oedd yn bobologiadd efo'r gynulleidfa.

Mi oedd hi bach yn anodd i fi fynd lawr i wylio'r band 'Perfect Pete' gan fod lot o'r gynulleidfa yn fy adnabod ac yn dod draw i ofyn am lun. Nôl a fi felly i'r ardal VIP gan mai noson Pete oedd hi. Ar ôl i nifer o bobl dynnu lluniau'r ddau ohono ni efo'n gilydd, nôl ar hyd yr M4 i Gaerdydd oedd hi i fi, gan feddwl efallai mai dyna'r tro olaf i fi weld Pete!

Tan tro nesaf!

Hwyl

Glyn

x