Fy hoff bobol
Nath unrhywun weld y rhaglen deledu echrydus yna noson o'blaen ar ITV? Greatest Britons neu rwbeth? Roedd e mor ofnadwy doeddwn i a fy ffrind Emma ddim yn gallu stopio gwylio hi. Roedd hi fel seremoni wobrwyo i Brydeinwyr gwych. Ar bapur, syniad da fi'n siwr. Ar y sgrin? Of-blincin-nadwy.
Roedd un bit o'r rhaglen lle odd rhaid i chi bleidleisio am y Prydeinwr mwya anhygoel sy dal yn fyw. Dyma'r bobol oedd y rhestr fer:
- Y Frenhines
- Maggie Thatcher
- Julie Andrews
- Robbie Williams
- Paul McCartney
Robbie Williams!? Robbie Williams?! Roedd e chydig bach fel X-Factor. Roedd rhaid i chi decstio mewn drwy roi "Queen" neu "Maggie" neu "Robbie" a.y.b. Y Frenhines ennillodd. Hmmm... nai ddim ymateb i'r penderfyniad yna rili, ond nes i ddechrau meddwl am y bobol sy, yn fy marn i, yn haeddi cael eu galw yn:
Bobol Ffab Magi Dodd (sy dal yn fyw)
- Teulu fi i gyd
- Ffrindiau fi i gyd
- Alun Jones
- Lilly Allen
- Tyra Banks
- Doctoriaid a nyrsys y byd
- Pobol sy'n mynd i wledydd peryglus i helpu pobol eraill, fel pobol y Groes Goch ac Achub y Plant
- Alan Sugar - "You're Fired!"
- Geraint Jarman
- Cameron Diaz
- Charlotte Church
- Stevie Wonder
- George Michael
- Ian Hyland
- Pat Butcher
- Charlotte Gainsbrough
- Frank Butcher
- Miranda off Sex and The City
- Sarah Jessica Parker
- Andrew Lloyd Webber
- Y boi gyda gwallt melyn ar Any Dream Will Do... Chi'n gwybod - Yr Albanwr sy wastad yn crio - Craig ife?
- Drew Barrymore
- Mr Peacocks a Mr Primark
- Jennifer Aniston
- Gwyddonwyr sy'n gweithio tuag at wella afiechydon fel canser
- Dynion bins sy'n clanhau Tudor Road yn Grangetown
- Tony Merolla
Tra
M xxx
O.N - Fi di gweld pâr sgidie anhygoel ar y we. Fydde nhw'n berffaith i briodas fy chwaer. Ond ma nhw'n £280. Hmmm.. Oes modd cyfiawnhau gwario gymaint ar bâr o sgidiau? O gosh - fi ddim yn gwbod.. ma nhw'n anhygoel. Ond ma nhw mor ddrud! Ebostiwch C2 gyda'ch barn chi plis!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.