Hei Mistar Urdd !!!
Nathon ni adael Caerdydd am 9 y bore a fues i'n darllen y "Daily Star" am y "gossip" am Big Brother 8....dwi mor excited - ma'n annodd credu fod 'na flwyddyn 'di mynd heibio ers i mi gerdded trwy dryse ty'r "Brawd Mawr".
Wel, mi gymerodd hi TAIR AWR A HANNER i gyrraedd y Maes ag ar y ffordd mi ddaru ni "over takio" bws mini Ysgol y Moelwyn. Wedi cyrraedd y maes parcio (yr un pella yno wrth gwrs!), mi ddaru fi redeg i fyny at y bws, ond plant Ysgol Tanygrisiau oedd ynddo ... roedd yn neis gweld y plant yn excited i fynd i'r steddfod.
Wrth gerdded i mewn roedd na dipyn o ddisgyblion yn gofyn am lofnod a lluniau ayb, felly mi gymerodd dipyn o amser i gyrraedd campws y BBC. Am 1.30pm, mi roedd hi'n amser i fynd i lawnsio fy llyfr newydd "Blwyddyn Fawr Glyn Wise" ar stondin Gwasg Carreg Gwalch. Roedd Myrddin ap Dafydd yno i neud "speech" bach am y llyfr. Gobeithio fydd pawb yn ei hoffi ...
Ar ôl y lawnsiad, mi fuodd Magi, Sian (Cynhyrchydd) a finne i'r Ffair. Grêt! Ond wrth i'r reid gychwyn troi, mi nes i sylweddoli fy mod i'n eistedd yn yr ochr lle oni'n cael fy "sgwisho"....typical!!
Ddiwedd y prynhawn, fuon ni'n mynd rownd y Maes yn cael sgwrs efo selebs Cymru a trio cael nhw i gefnogi fy ymgyrch newydd, sef fy mod i'n cael trio cael bod yn aelod o'r Orsedd (ar gyfer Steddfod Wyddgrug)a fy slogan oedd "A Oes Heddwch? Na, ddim nes bod Glyn yn y Gwyn yn yr Orsedd!". Ma Rhodri Owen; Owain a Catrin o Ffeil a Terwyn (C2) wedi ymuno yn yr ymgyrch! Falle fydd rhaid i Selwyn Griffith wylio ei "job"!!!
Tan yfory gyfeillion
hwyl
Glyn (a Magi)
xx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.