« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dydd Mawrth yr Urdd !!!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Mawrth, 29 Mai 2007

Goro codi am 7am a ma hynne'n ganol nos i fi!! Ffwrdd a fi lawr i'r Urdd ag wrth gwrs oni'n styc mewn "traffic jam"! Dechre colli'n nhymer gan fod fi heb gael brecwast - sa dwi'n cael bwyd, dwi'n troi mewn i rhyw fath o "ogre"! Oni'n cymryd rhan yn sioe deledu'r Urdd bore 'ma efo Eleri Sion a Gwyneth Glyn a mi roedd S4C yn ffonio fi ar y ffordd i weld lle oni? "Yn styc yn y traffic jam wrth gwrs", felly, ges i fy hebrwng lawr i'r Maes gan neb llai na'r Heddlu!! Da de?!

Tua amser cinio mi ddaru Sian a Magi gyrredd, felly gafo ni chinese, yna i chwilio am selebs. Ffeindio ni Heledd Cynwal - oh, ma hi mor dlws - oni'n ffeindio'n hyn yn blysho braidd. Wedyn gafo ni air efo Myrddin ap Dafydd, Aled Samuel a'i blant, Mabon a Ifan a hefyd Daniel Lloyd oedd mewn "bad mood". Fuo ni hefyd yn siarad efo yr hyfryd Richard Rees.

Roedd lot o blant dod aton ni heddiw. Fues i'n lawnsio CD rocon8 sef CD ma Pwyllgor Ieuenctid Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008 yn cyhoeddi CD i godi arian tuag at yr Eisteddfod. Weles i Kifty ag Ed Holden, criw Anioddefol a hefyd mi ddaru Cate le Bon ofyn i fi am lun. Diwrnod da arall heddiw, ond wedi blino....gwely cynnar heno

Hwyl

Glyn

xx