« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ffyrdd Bach Gwledig

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:00, Dydd Mawrth, 29 Mai 2007

Sian a finne'n gadel Caerdydd ag unwaith eto, ddaethon ni ar draws yr hoffus "traffic jam", felly benderfyno ni ffeindo "short cut" a dyma ddechre'r saga....fyny'r mynydd ar y ffyrdd bach gwledig "single track" -fuo ni ar bob un yn Sir Gâr fi'n siwr!! Gorfo Sian "reverso" i osgoi'r "hedge" a finne'n gorfo dod mas i'w helpu hi. Roedd hi ddim yn brofiad pleserus cael fy stillettoes wedi eu "scyffio"! Yn y diwedd ffeindo ni bostmon cyfeillgar a fe ddangosodd e "short cut" bach i ni"! Hwre!

Treulio'r dydd yn osgoi pobl, ee, cyn-gariadon - sy'n briod nawr ag yn pwsho'r bygis trendi 'na yn cerdded o gwmpas y maes. Ond wrth gwrs ma'n rhaid stopo i siarad a gofyn yr un hen gwestiynau - "Sut ma Pethe?", "Sut ma'r Teulu?" "Yma am yr wythnos?" . Un person nes i ddim osgoi oed yr hyfryd Ed Holden - yo, yo, yo! Ma fe mor cwwl!!

Absoliwtli nacyrd heddiw, ond yn GORFOD mynd i'r gym heno i golli pwyse....mae yn "desperate measures" arna'i nawr cyn i fi "squeezio" mewn i'r ffrog morwyn briodas...lyposuction fydd hi - allai weld e nawr! Alun di bod ar noson "stag" yn Hamburg ag yn edrych mlan i weld e' heno

Hwyl

Magi

xx